03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ffermwr defaid o Bowys wedi ymgolli mewn e-ddysgu

MAE’R ffermwr defaid o’r drydedd genhedlaeth, Wyn Williams o Lanfair Caereinion yn gwybod llawer am ffermio defaid.  Erbyn hyn, diolch i fodylau hyfforddi e-ddysgu ar-lein Cyswllt Ffermio sydd wedi eu hariannu’n llawn mae’n gwybod llawer mwy!  Magwyd Wyn ar y fferm deuluol ychydig filltiroedd o lle mae’n byw. Heddiw, ar ei fferm fynydd, sy’n amrywio o 1,100 i 1,300 troedfedd o uchder, mae’n cadw 500 o famogiaid croes penfrith yn bennaf a 200 o ŵyn benyw sych.

Mae Wyn wedi bod yn defnyddio unrhyw amser sbâr sydd ganddo i gael gwybodaeth newydd trwy Cyswllt Ffermio. Dilynodd fodiwlau e-ddysgu ar bynciau yn amrywio o ddynodi a thrin afiechydon mewn defaid i reoli llyngyr, cloffni, ymwrthedd gwrthficrobaidd a bioddiogelwch.

Credai Wyn nad oedd ganddo amser i’w neilltuo i astudio gan fod ganddo waith llawn amser y mae’n ei gyfuno â ffermio. Am na chafodd gyfle i ddilyn ochr academaidd amaethyddiaeth, roedd ganddo bryderon nad oedd yn gwybod am y cyfarwyddyd mwyaf cyfredol a’r arferion gorau.

Fe’i darbwyllwyd gan ei swyddog datblygu lleol, Owain Pugh, i gofrestru ar gyfer BOSS, Gwasanaeth Cefnogi Ar-lein i Fusnes Llywodraeth Cymru trwy Sign On Cymru, sef y llwybr ar gyfer dewis a chael mynediad i restr Cyswllt Ffermio o fwy na 80 o gyrsiau e-ddysgu.

“Ar ôl cwblhau fy nghwrs e-ddysgu cyntaf ar atgenhedlu tymhorol mewn mamogiaid mewn llai nag awr, a oedd yn cynnwys cwis byr i asesu beth oeddwn i wedi ei ddysgu, roeddwn wrth fy modd.”

Bellach, mae Wyn yn gweithio trwy bob modwl yn ymwneud â defaid sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio. Ar ôl iddo eu cwblhau i gyd, mae’n bwriadu symud ymlaen i gyrsiau ar-lein ar laswelltir a rheoli busnes.

Dywed Wyn fod pob modiwl yn cynnwys cyngor ymarferol iawn a’i fod bob amser yn gallu ei gymhwyso i’r materion mae’n ei brofi ar y fferm o ddydd i ddydd, gan ei gynorthwyo i wneud gwell penderfyniadau a dewisiadau.

“Mae’n ffordd mor hawdd o gael mwy o wybodaeth, wedi ei gyflwyno ar yr union lefel gywir ac rydych yn dysgu ar eich cyflymder eich hun.”

“Rwyf wedi arbed llawer o amser ac arian trwy ystyried y dewisiadau ar gyfer gwahanol gyfnodau peidio gwerthu ar ôl defnyddio dos.  Trwy gael y wybodaeth berthnasol yn hawdd ei chyrraedd, rwy’n gallu symud y stoc ymlaen cyn gynted ag y byddant yn barod”.

Mae pob modiwl e-ddysgu rhyngweithiol yn cymryd tua 20-30 munud i’w cwblhau, a gallwch ail wneud y modiwlau nes eich bod yn hyderus bod yr holl ffeithiau sydd arnoch eu hangen ar gael ar flaen eich bysedd.  Ceir cwis byr ar ddiwedd bob un a fydd yn dangos unrhyw agweddau y gallech fod yn dymuno ail-edrych arnynt. Am drosolwg cryno o dros 80 o’r pynciau sydd a’r gael a’r hyn sy’n cael ei drafod ym mhob un, ewch i llyw.cymru/cyswlltffermiosgiliauhyfforddiant.

Er mwyn cwblhau cyrsiau e-ddysgu ar lein, mae angen i chi fod wedi cofrestru eich cyfeiriad e-bost unigol gyda Cyswllt Ffermio a mewngofnodi i BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) drwy Sign On Cymru.  Yna, gallwch ddewis y modiwl/modiwlau e-ddysgu sydd arnoch ei angen/eu hangen.  Os oes angen cymorth gydag unrhyw ran o’r broses, gallwch gysylltu â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblheir gennych, bydd ‘Tystysgrif gwblhau’ yn cael ei huwch lwytho i’ch cofnod Storfa Sgiliau personol ar-lein, sef eich cofnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus, ar eich rhan.

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, ewch i llyw.cymru/cyswlltffermiosgiliauhyfforddiant

%d bloggers like this: