04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ffermwyr yn diogelu ansawdd dŵr gyda chymorth rhaglen Agrisgôp

MAE ansawdd y dŵr a dynnir o dwll turio dŵr yfed pwysig yn cael ei ddiogelu, diolch i newidiadau bychain i arferion ffermio a sbardunwyd gan gydweithio rhwng ffermwyr a Dŵr Cymru Welsh Water, wedi’i hwyluso gan Cyswllt Ffermio.

Mae Dŵr Cymru’n tynnu dŵr o dwll turio Morfa Bychan ger Pentywyn sy’n cyflenwi dŵr i 8,000 o bobl yn ardal Sir Gaerfyrddin. Trwy weithio mewn partneriaeth âffermwyr ar y tir o amgylch Morfa Bychan, mae Dŵr Cymru’n gallu diogelu ansawdd y dŵr yn well cyn iddo gyrraedd y gwaith trin dŵr ym Mhentywyn. Mae hyn yn eu helpu i gadw biliau’n isel, diogelu’r amgylchedd a diogelu ein ffynonellau dŵr yfed am genedlaethau i ddod.

Mae rhywfaint o’r tir sy’n draenio i mewn i’r twll turio’n cael ei ffermio ac mae ganddo nifer o lyncdyllau, sef nodweddion naturiol sy’n gallu achosi i weithgareddau sy’n digwydd uwchben y tir effeithio ar y dŵr daear.

Yn 2017, cysylltodd Dŵr Cymru â Menter a Busnes, sy’n darparu’r Gwasanaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Chynghori Cyswllt Ffermio, i ofyn am gymorth i weithio gyda ffermwyr er mwyn canfod atebion i’r problemau gydag ansawdd dŵr. Roeddent eisiau i bawb fod ar eu hennill. O ganlyniad, ffurfiwyd grŵp Agrisgôp.

Lilwen Joynson, David Tremellen and Roy Bevan

Mae Agrisgôp yn rhaglen ddysgu gweithredol wedi’i hariannu’n llawn sy’n dod ag unigolion at ei gilydd o fusnesau fferm a choedwigaeth lleol sydd â’r un meddylfryd ac sy’n arloesol eu bryd.

Sefydlwyd y grŵp ym Mhentywyn gan yr arweinydd Agrisgôp Lilwen Joynson ac mae’n cynnwys saith ffermwr llaeth a chynhyrchydd eidion o ardal o dir sy’n draenio i mewn i’r twll turio dŵr yfed.

Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd ar y ffermydd, cafwyd ymweliad â’r gwaith trin dŵr lleol a chynhaliwyd trafodaethau dan gyfarwyddyd Ms Joynson. Arweiniodd hyn oll at ganfod nifer o atebion a fyddai o fudd i’r ffermwyr ac i’r amgylchedd dŵr.

“Roedd y ffermwyr yn deall y broblem yn glir iawn a’r hyn y gallent ei wneud ar y cyd i’w mesur a’i rheoli” meddai.

I Roy Bevan, sy’n godro 500 o wartheg ar East Pool Farm, mae hyn yn golygu ei fod yn gwasgaru slyri a thail dim ond ar y tir sydd y tu allan i ddalgylch y dŵr. Mewn cyfnodau o law trwm, mae’n rheoli ei dir i sicrhau bod unrhyw ddŵr ffo posibl yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth y nant sy’n bwydo’r twll turio.

Dywedodd Mr Bevan bod y dull a hyrwyddir gan Agrisgôp yn un y byddai’n ei argymell i ffermwyr eraill. “Mae mynd ati gyda hwylusydd annibynnol i drafod y problemau gyda Dŵr Cymru wedi bod yn brofiad hynod o bositif. Gwnaeth Lilwen waith rhagorol,” meddai.

Dywedodd aelod arall o’r grŵp, y ffermwr llaeth David Tremellen, o Fferm Tremoilet, bod yr ymarfer wedi canolbwyntio ei feddwl ar y ffordd y gallai arferion rheoli tir effeithio ar ansawdd y dŵr ac mae’n fwy ymwybodol o’r broblem erbyn hyn. “Mae ymweliad â’r gwaith trin dŵr wedi ein gwneud ni’n fwy ymwybodol o ba mor fawr a drud yw’r broblem i’r gwaith trin dŵr yn aml iawn wrth iddo brosesu dŵr crai o ansawdd gwael. Mae hyn yn rhywbeth nad oeddem yn ymwybodol ohono cyn cymryd rhan yn y fenter hon.”

Roedd Mr Tremellen, sy’n godro 470 o wartheg mewn system loia drwy’r flwyddyn gron, yn cydnabod bod ffermwyr yn gallu bod yn ofnus ar brydiau pan fydd problemau’n cael eu codi mewn perthynas ag ansawdd dŵr ond bod dull Agrisgôp wedi lleddfu pryderon.

“Ni fyddem wedi cwrdd â Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r un meddylfryd os na fyddai Agrisgôp wedi ein helpu,” meddai.

Yn ôl Ms Joynson, roedd y fenter yn enghraifft dda o ffermwyr yn ymdrin â’u cyfrifoldebau eu hunain am reoli’r amgylchedd.

“Gall y ffermwyr rannu arferion gorau a’u rhoi eu hunain ar flaen y gad wrth reoli ansawdd y dŵr lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” ychwanegodd.

Er nad yw’r grŵp Agrisgôp yn bodoli bellach, mae’r ffermwyr yn dal i gwrdd â Dŵr Cymru i sicrhau bod ansawdd y dŵr yn derbyn ystyriaeth wrth wneud gwaith rheoli tir yn yr ardal.

Mae Cyswllt Ffermio’n parhau i gefnogi’r ffermwyr drwy gyfrwng ei swyddog datblygu ar gyfer De Sir Benfro, Susie Morgan, gyda mentrau megis samplu pridd a sganio dargludedd i hysbysu unrhyw gynlluniau posibl i gyflwyno technegau ffermio manwl gywir yn y dyfodol. Dyma Gam 3 mewn rhaglen waith sy’n cynnwys darparu cefnogaeth neu adnoddau i weithredu dull cydweithredol o wella a diogelu ansawdd y dŵr yn ein twll turio ym Morfa Bychan.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: