04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ffliw Adar wedi’i ganfod ar safle yng Ngwynedd

MAE Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 ar safle ger Arthog yng Ngwynedd.

Mae Parth Gwarchod 3 cilomedr a Pharth Goruchwylio 10 cilomedr wedi’u datgan o amgylch yr safle heintiedig, i gyfyngu ar y risg o ledaeniad clefydau.

O fewn y parthau hyn, cyfyngir symudiadau a chynulliadau adar ac mae’n rhaid datgan pob daliad sy’n cadw adar.  Mae’r mesurau’n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Gwybodaeth lawn ar gael yma.

Dywed asiantaethau iechyd y DU fod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws yn isel iawn ac yn ôl asiantaethau safonau bwyd y DU. Mae asiantaethau safonau bwyd y DU yn dweud bod ffliw’r adar yn risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU.

Meddai Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins:

“Mae’r chweched achos hwn o ffliw adar yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf yn destun pryder a thystiolaeth o’r risg parhaus sydd allan yna i’n hadar.

Bu ymlediad digynsail o ffliw adar i Brydain Fawr ac Ewrop yn 2022 ac mae’n rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf un o fioddiogelwch. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar.

Wrth i ni symud i’r Hydref a’r Gaeaf, rwy’n eich annog i gyd i adolygu’r mesurau sydd gennych ar waith a nodi meysydd i wella.  Meddyliwch am risgiau o gysylltu’n uniongyrchol ag adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, a hefyd y pethau y gellid eu halogi gan faw adar – dillad ac esgidiau, offer, cerbydau, bwyd anifeiliaid a dillad gwely.  Gwnewch welliannau lle gallwch chi atal lledaeniad pellach o’r clefyd dinistriol hwn.

Mae bioddiogelwch da bob amser yn allweddol wrth ddiogelu anifeiliaid rhag clefydau.”

Dylai pobl roi gwybod i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 am adar marw ac amheuaeth o ffliw adar.

Gellir casglu’r rhain ar gyfer archwilio a chadw gwyliadwriaeth o ffliw adar, yn dibynnu ar y rhywogaethau a’r lleoliad. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am adar marw a’u gwaredu ar Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu

Mae’n bwysig peidio â chodi na chyffwrdd unrhyw aderyn sâl neu farw.

Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli clefydau ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Prydain i’w weld yma.

%d bloggers like this: