03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Fideos newydd ceisio helpu rhai hynny sy’n byw â dementia i ymdopi â newidiadau COVID-19

MEWN ymateb i ymchwil sy’n datgelu’r heriau y mae COVID-19 yn eu cyflwyno i bobl sy’n byw â dementia, mae prosiect Mentro Gyda’n Gilydd GIG Cymru wedi creu cyfres o fideos i’w cefnogi.

Dywedodd Dr Natalie Elliot, Arweinydd y Prosiect ac Arweinydd AHP Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Mae Mentro Gyda’n Gilydd yn brosiect cenedlaethol sy’n helpu pobl sy’n byw â dementia i addasu i newidiadau yn eu hamgylchedd o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19. Rydym wedi creu’r ffilmiau fel ‘straeon digidol’ i geisio tawelu meddwl unrhyw un sy’n bryderus am ddychwelyd at fywyd o fewn eu cymunedau. Nod y ffilmiau yw lleddfu gorbryder a lleihau ynysigrwydd wrth i’r cyfyngiadau lacio.”

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae bron i hanner y bobl (46%) sy’n byw â dementia wedi nodi bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, gyda dros 1 ym mhob 3 yn dweud eu bod wedi colli hyder i fynd allan a chyflawni tasgau dyddiol.

Mae’r ofalwraig Ceri Higgins yn aelod o Leisiau Dementia, grŵp annibynnol o dan arweiniad pobl sy’n byw â dementia a gofalwyr, sy’n rhoi llais i bobl sy’n byw â dementia yng Nghymru. Dywedodd hi:

“Mae adnoddau Mentro Gyda’n Gilydd yn gymorth sydd ei ddirfawr angen er mwyn ein harwain o ran sut i ymgyfarwyddo a deall amgylchiadau ac amgylcheddau sy’n rhan o’n bywydau bob dydd o’r newydd. Mae nifer ohonom wedi bod ar ein pen ein hunain ac wedi ein heffeithio gan y pandemig, o ganlyniad i golli rwtîn a chysylltiad, ac mae Mentro Gyda’n Gilydd yn cynnig cipolwg ar fywyd yn y gymuned a rheswm dros ymgysylltu unwaith yn rhagor.”

Mae fideos Mentro Gyda’n Gilydd wedi’u dylunio i leihau’r pryderon sy’n deillio o straen COVID-19 a bod allan o’r arfer o adael y tŷ, lle mae newidiadau i brosesau a oedd yn gyfarwydd o’r blaen yn golygu bod hyd yn oed ymweld â’r llyfrgell yn gallu achosi straen.

Mae’r ffilmiau oddeutu dwy funud o hyd ac maent wedi’u dylunio’n arbennig â throslais bywiog, lluniau a thestun, yn ogystal â rhai wynebau cyfeillgar y tu ôl i fasgiau, er mwyn annog unrhyw un a allai fod yn teimlo’n nerfus ynghylch mynd allan.

Gall unrhyw un sy’n dymuno ymgyfarwyddo â’r newidiadau hyn ddefnyddio’r adnoddau, nid y rhai hynny sy’n byw â dementia yn unig. Gall unrhyw un wylio’r ffilmiau i weld y mesurau diogelwch newydd megis systemau unffordd, arwyddion cadw pellter cymdeithasol a sgriniau clir, sy’n gallu bod yn ddryslyd i ddechrau.

Mae’r fideos wedi’u datblygu mewn partneriaeth rhwng y GIG yng Nghymru, Awdurdodau Lleol ac ystod o fusnesau a phartneriaid. Cafodd y prosiect gefnogaeth a goruchwyliaeth trwy Gynllun Enghreifftiol Comisiwn Bevan.
Drwy ddangos enghreifftiau o arwyddion y gallai pobl ddisgwyl eu gweld, systemau unffordd, marciau cadw pellter cymdeithasol a mwy, bydd yr adnoddau hyn yn helpu unigolion i ymgyfarwyddo â’r mesurau diogelwch newydd mewn siopau, llyfrgelloedd, caffis, gwasanaethau gofal iechyd a lleoliadau cymunedol eraill.

Mae’r ffilmiau hefyd ar gael ar ffurf pamffled, wedi’u hargraffu yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Yn ôl  I fywyd cymunedol

Gwahoddir unrhyw fusnesau sy’n dymuno cymryd rhan i anfon e-bost at Natalie.Elliot@wales.nhs.uk i ganfod sut i gyfrannu fideo yn arddangos eu mesurau diogelwch COVID-19.

Gweld yr adnoddau fideo:

Saesneg: https://rb.gy/lkzstg

Cymraeg: https://rb.gy/yrgqle

Yn ogystal, mae Yn Ôl i Fywyd Cymunedol, menter Gwelliant Cymru, yn darparu adnoddau er mwyn i arweinwyr cymunedol eu teilwra ar gyfer pobl yn eu hardal leol sy’n cael trafferth ers y pandemig i ddychwelyd at fywyd yn y gymuned. Mae’r adnoddau yn cynnwys templedi y gellir eu haddasu a gwybodaeth am addasiadau ar gyfer busnesau lleol gan gynnwys ardaloedd diogel i orffwys, megis llefydd eistedd, a chiwio blaenoriaeth.

Dywedodd Rebecca Hanmer, Uwch Reolwr Gwella gyda Gwelliant Cymru;

“Dechreuodd Yn Ôl i Fywyd Cymunedol yn Aberpennar gan bobl a sefydliadau lleol, gan gynnwys yr heddlu, trafnidiaeth, yr awdurdod lleol, y sector gwirfoddol, iechyd a gofal cymdeithasol, siopau a busnesau, a weithiodd gyda’i gilydd i nodi pwy oedd angen cymorth a beth oedd ei angen.

Mae hwn yn enghraifft holistaidd o sut daeth y gymuned at ei gilydd i ddarparu cefnogaeth mewn modd integredig a galluogi pobl i ddychwelyd at fywyd yn y gymuned.”

%d bloggers like this: