03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gall lleihau allyriadau a gwella bioamrywiaeth fynd law yn llaw â gwneud eich busnes yn fwy proffidiol

MAE amaethyddiaeth yn gyfrifol am tua 12% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac mae ganddi rôl hanfodol i’w chwarae o ran helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i sicrhau allyriadau ‘sero net’ erbyn 2050.

Yn yr un modd, mae amaethyddiaeth yn ganolog i fynd i’r afael â cholledion sylweddol o safbwynt bioamrywiaeth dros y degawdau diwethaf. Gwyddom y bydd mesurau sy’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn hyrwyddo bioamrywiaeth yn debygol o gael lle amlwg mewn cynlluniau sy’n agored i ffermwyr yn y dyfodol.

Gwyddom hefyd fod defnyddwyr yn holi mwy nag erioed am gynaliadwyedd y bwyd y maent yn ei brynu, o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â’i gynhyrchu i’w effeithiau ar gynefinoedd ac ansawdd dŵr.

Mewn ymateb, mae gwledydd amlwg sy’n cystadlu â’r sector  amaethyddiaeth yng Nghymru (e.e. Iwerddon, Seland Newydd ac Awstralia) i gyd wedi cyflwyno rhaglenni i leihau effeithiau amgylcheddol eu systemau cynhyrchu.

Felly mae mwy o angen nag erioed i sector amaethyddol Cymru ymateb. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi y gall gwneud hynny hefyd sicrhau manteision busnes uniongyrchol. O ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr net o amaethyddiaeth, mae dau ddewis: i) gwella effeithlonrwydd cynhyrchu, a ii) dal a storio carbon i raddau helaethach. Gadewch i ni edrych ar y ddau ar wahân.

Yn gyntaf, mae dwsinau o ffyrdd o wella effeithlonrwydd cynhyrchu. Mae gwahanol opsiynau ar gael ar gyfer gwahanol ffermydd, gan gynnwys gwella iechyd anifeiliaid a lleihau colledion, dim ond defnyddio gwrtaith lle mae ei angen, gwneud y defnydd gorau o borthiant a rheoli glaswelltir yn y ffordd orau bosibl. Yn ogystal â lleihau costau cynhyrchu, byddai hyn yn lleihau ôl troed carbon eich cynnyrch (e.e. pob kg o gig neu litr o laeth a gynhyrchir ar eich fferm) a gallai helpu i ‘ryddhau’ tir ar gyfer creu cynefinoedd.

Yn ail, gall amaethyddiaeth ddileu rhai o’i hallyriadau ei hun drwy ddal a storio carbon mewn priddoedd a phlanhigion sy’n tyfu. Gellir cynyddu lefel y carbon a gaiff ei storio yn y pridd drwy drin llai ar y tir a sicrhau llai o erydu, a chynnwys rhywogaethau sy’n gwreiddio’n ddwfn. Gall plannu coed mewn lleoliadau priodol a gadael i wrychoedd dyfu’n lletach ac yn dalach hefyd wella’r broses dal a storio a lleihau ôl troed carbon cyffredinol eich fferm yn ogystal â chreu cynefinoedd, gan sicrhau manteision eraill fel gwell cysgod i dda byw.

Felly, dylai ffermwyr ystyried y cyfleoedd a sut y gall mesurau o’r fath wneud synnwyr i’r amgylchedd ac i fusnes. Mae’n sefyllfa lle bydd pawb ar ei ennill ac yn dangos sut mae amaethyddiaeth yn rhan fawr o’r ateb wrth helpu i fynd i’r afael â materion amgylcheddol.

Gyda chyngor arbenigol drwy’r Gwasanaeth Cynghori, gwasanaethau cymorth, arweiniad, digwyddiadau a hyfforddiant ar gael drwy Cyswllt Ffermio, byddwch yn gallu gweithredu systemau cost-effeithiol ac effeithlon a fydd nid yn unig yn eich helpu i chwarae eich rhan i leihau allyriadau carbon, newid hinsawdd a llifogydd ond hefyd yn helpu eich busnes i fod yn fwy proffidiol.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol. Fel arall, ewch i’n gwefan www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: