04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gallai’r cynnydd yn nhreth Cyngor Castell Nedd fod ymysg yr isaf yng Nghymru

MAE adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wythnos nesaf bellach yn argymell fod cynnydd cychwynnol o 3.75% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021/22 bellach yn cael ei leihau i ddim ond 2.75%.

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb arfaethedig 2021/22 a ystyriodd farn dros fil o breswylwyr.

Mae’r adroddiad i’r Cabinet yn dweud hyn:

“Nodwyd mai’r prif ofid (ar sail ariannol) oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor, ac ar ôl ystyried, mae hyn, ynghyd â chynigion eraill, wedi cael eu newid. Yn dilyn y broses ymgynghori, gostyngwyd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o 3.75% i 2.75%.”

Ar ôl ystyried yr adroddiad wythnos nesaf, bydd cyfarfod llawn o’r Cyngor yn gosod cyllideb derfynol 2021/11. Mae’r cyngor yn derbyn y rhan fwyaf o’r gyllideb refeniw oddi wrth Lywodraeth Cymru, a rhyw 25% o gyfanswm incwm y cyngor sy’n dod o Dreth y Cyngor.

Mae’r adroddiad yn amlinellu y bydd prinder ariannol o £3.235m ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, ynghyd â chynigion ynghylch sut i gau’r bwlch. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi mesurau ar waith yn gyfwerth â £135,000 a gytunwyd y llynedd, a defnyddio £3.1m o arian cyffredinol wrth gefn.

Meddai’r Cynghorydd Carol Clement Williams, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid:

“Ar ôl cynnig cyllideb wreiddiol oedd yn cynnwys cynnydd o 3.75% yn Nhreth y Cyngor, aethon ni i ymgynghoriad cyhoeddus.

“Fe wnaethon ni wrando’n ofalus ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud ac roedd hi’n glir fod gofidiau ariannol ynghylch y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor yn un o’r prif anawsterau oedd gan bobl ynghylch ein cynigion.

“Mae’r cyngor hwn yn gorfod gweithio’n galed i gadw’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor i’r lefel isaf posib, a gwrthbwyso hynny yn erbyn yr angen i ddarparu’r llu gwasanaethau angenrheidiol y mae cynifer o’n preswylwyr a’n busnesau’n dibynnu arnynt.

“Rwy’n falch o ddweud ein bod ni wedi gallu dod i sefyllfa ble mae modd i ni ostwng y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor i 2.75%, un o’r isaf yng Nghymru, a pharhau i ymatal rhag gwneud toriadau i wasanaethau.”

Er gwaetha’r hinsawdd economaidd anodd o ganlyniad i bandemig Covid-19, bydd ail adroddiad yn gofyn i gynghorwyr gymeradwyo buddsoddiad arfaethedig o dros £150m mewn prosiectau mawr yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y tair blynedd nesaf.

Dyma rai o blith y buddsoddiadau sy’n cael eu targedu ar gyfer 2021/22:

Agor ysgol gyfun newydd werth £29m i gymryd lle Ysgol Gyfun Cefn Saeson (disgwylir i’r gwaith ddod i ben ym mis Mehefin eleni, dri mis cyn y disgwyl);

Symud ymlaen gyda’r gwaith o adeiladu ysgol gynradd ar un safle i gymryd lle Ysgol Gynradd Abbey sydd bellach dros dri safle (cyfanswm buddsoddiad £11m);

Parhau â thrydydd cam y gwaith yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera (cyfanswm cyllideb y prosiect, £9m);

Parhau â datblygu’r atyniad llithren sip mawr arfaethedig ym Mharc Gwledig Margam;

Symud rhaglen adfywio uchelgeisiol yn ei blaen, gan gynnwys Glan Cei (hen ardal ddatblygu dociau Port Talbot), ailddatblygu Canol Tref Castell-nedd (dechreuodd y gwaith ar y ganolfan siopa a hamdden newydd y llynedd). prosiect ailddatblygu Sinema’r Plaza, a’r Ganolfan Dechnoleg hunan-bweru sy’n cael ei hadeiladu ym Mharc Ynni Bae Baglan i hybu swyddi a buddsoddi gwyrdd;

Parhau i fuddsoddi £3m mewn Grantiau Cyfleusterau Anabl; a

Gwaith ailddatblygu yn Uned Ddiogel Hillside, Castell-nedd.

 

%d bloggers like this: