09/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gallwch nawr archebu slot nofio cymunedol ym Mhrifysgol Aberystwyth

GALL pobl nawr archebu slot i fynd i nofio ym mhwll Prifysgol Aberystwyth tra bo gwaith adeiladu yn parhau yng Nghanolfan Hamdden Plascrug.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am eu cymorth wrth i ni wneud gwaith hanfodol ar Ganolfan Hamdden Plascrug cyn y gellir ei ailagor.

Yn y cyfamser, gall pobl fanteisio ar nifer o slotiau ar gyfer defnydd cymunedol yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol o ddydd Llun, 28 Mehefin 2021, ymlaen.

Bydd sesiynau nofio i’r teulu, 60+ a nofio mewn lonydd ar gael. Bydd pob sesiwn yn awr o hyd gyda 45 munud yn y pwll a bydd mynediad i’r dŵr am chwarter wedi’r awr.

Ar gyfer nofio mewn lonydd, bydd y pwll yn cael ei rannu yn bedair lôn, gyda dwy lôn ar gyfer nofwyr cyflym a dwy arall ar gyfer defnydd hamdden.

Yn ystod y sesiynau nofio i’r teulu, bydd y pwll yn cael ei rannu yn bedwar pod. Rhaid i oedolyn fod yn bresennol gyda phlentyn o dan 4 oed ar drefniant 1 i 1, a rhaid i oedolyn fod gyda phlant o dan 8 oed hefyd, gydag uchafswm o ddau blentyn i bob oedolyn.

Bydd angen i chi archebu eich slot ymlaen llaw drwy fynd i wefan Ceredigion Actif (www.ceredigionactif.org.uk) i lawrlwytho ffurflen archebu. Byddwch yn gallu archebu dros y ffôn yn fuan. Ni chaniateir galw heibio.

Canllawiau COVID-19 i nofwyr

Mae’r coronafeirws yn parhau’n fygythiad i’n cymunedau ac rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion yn y sir. O ganlyniad, gofynnwn i bawb ddilyn y rheolau i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Darllenwch y canllawiau COVID-19 i nofwyr ar wefan Ceredigion Actif (www.ceredigionactif.org.uk) cyn mynd i nofio. Bydd y wefan hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr amserlenni a’r oriau agor.

%d bloggers like this: