04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Galw am brosiectau yn anelu i feithrin cymunedau llewyrchus a chynhwysol i gael mynediad i gyllid

MAE Cyngor Sir Fynwy eisiau clywed gan bobl a all fod â syniad ar gyfer prosiect yn eu cymuned a ddaw â phobl ynghyd a helpu i adeiladu cymunedau llewyrchus a chynhwysol.

Mae ‘Penderfynwch chi, Sir Fynwy’ yn rhaglen grant bach yn cynnig cyllid o hyd i £4,500 ar gyfer prosiectau cymunedol yn ac o amgylch pob un o’r pum tref yn y sir i helpu gwireddu’r prosiectau hynny. Yn defnyddio cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, bydd Cyngor Sir Fynwy a phartneriaid yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth pan fydd aelodau’r gymuned yn penderfynu’r ffordd orau i wario’r arian yn eu hardal leol. I fod yn gymwys am gyllid, bydd angen i brosiectau ddangos y byddant o fudd i’r gymuned leol a dod â phobl ynghyd.

Mae’r broses yn rhoi aelodau’r gymuned mewn rheolaeth o ddyrannu cronfeydd i brosiectau sydd o fudd i’r gymuned drwy fabwysiadu systemau pleidleisio democrataidd. Mae hon yn ffordd newydd o weithio. Bydd y cyngor yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol ddulliau pleidleisio mewn gwahanol rannau o Sir Fynwy i ddysgu gan y broses ac i weithio gyda phobl i ddatblygu dull hirdymor. Cynhelir digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws safleoedd cymunedol. Bydd hefyd gyfleoedd pellach i wneud cais am gyllid prosiect cymunedol drwy ‘Penderfynwch chi, Sir Fynwy’ dros y ddwy flynedd nesaf.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Gall pobl gymryd rhan mewn dwy ffordd. Y gyntaf yw gwneud cais am gyllid i gefnogi prosiectau a syniadau lleol yn eu hardal leol. Mae grwpiau cymunedol, grwpiau dim am elw, cynghorau cymunedol neu dref, cyrff iechyd neu ysgolion i gyd yn gymwys i wneud cais. Gall Cyngor Sir Fynwy helpu i gynorthwyo pobl nad oes ganddynt gyfrif banc, a thrafod opsiynau am weithio wrth ochr sefydliad arall i wneud pryniadau ar eu rhan.

Gall pobl hefyd gymryd rhan drwy fod yn rhan o’r pleidleisio i helpu penderfynu beth a gredant sydd bwysicaf a beth fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn eu hardal leol. I gael mwy o wybodaeth ar y prosiectau a sut i gymryd rhan ewch i www.monmouthshire.gov.uk/partnerships

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae cynlluniau fel ‘Penderfynwch chi, Sir Fynwy’ yn hanfodol i gefnogi’r gwaith ardderchog sy’n mynd ymlaen yn ein cymunedau ar draws y sir. Gwyddom fod byddin o bobl garedig sy’n ymroi eu hamser i sicrhau y gall ein preswylwyr fwynhau amrywiaeth o wahanol gyfleoedd sy’n gwneud iddynt deimlo’n rhan o’u cymuned ac yn falch i fyw yn Sir Fynwy. Mae’r cyllid hwn yn anelu i wireddu’r syniadau hyn ac i bobl gael llais ar ba brosiectau y dymunant eu gweld yn yn eu hardal. Os oes gennych unrhyw syniadau ar rywbeth a allai helpu i wella eich cymuned, cysylltwch â ni!”

Mae dyddiad cau ceisiadau prosiect yn amrywio ar draws y Sir. I gael mwy o wybodaeth a help gyda’r broses cais, cysylltwch â:

Penderfynwch chi, Trefynwy: JoeSkidmore@monmouthshire.gov.uk

Penderfynwch chi, Brynbuga/Rhaglan:  ConnorLeacock@monmouthshire.gov.uk

Penderfynwch chi, Cil-y-coed: StaceyWhite@monmouthshire.gov.uk

Penderfynwch chi, y Fenni: ashleymorgan@monmouthshire.gov.uk

%d bloggers like this: