04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Galw am farn busnesau Abertawe i lywio cynlluniau adferiad COVID-19

GOFYNNIR i fusnesau Abertawe gwblhau holiadur COVID-19 am eu hanghenion presennol ac yn y dyfodol.

Bydd ymatebion i’r holiadur – sy’n fyw tan ddydd Sul 18 Ebrill – yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid i ddatblygu rhaglenni a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion adferiad cyflogwyr yn dilyn y pandemig ac yn gwella iechyd poblogaeth waith Cymru.

Nod yr holiadur yw:

Nodi anghenion iechyd gweithlu Cymru yn awr ac yn y dyfodol;

Nodi problemau allweddol i’w hystyried a’r ffordd orau o ymateb iddynt; a hefyd

Darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.

Bydd y cwestiynau’n cynnwys pa broblemau iechyd a lles y mae cyflogwyr yn pryderu amdanynt fwyaf dros y 12 mis nesaf, pa ddulliau y mae cyflogwyr wedi’u rhoi ar waith i greu amgylchedd gwaith iach, a pha systemau y mae cyflogwyr yn eu defnyddio i gefnogi aelodau o staff sydd ar absenoldeb salwch.

Bydd cwestiynau eraill yn cynnwys pa fesurau y mae cyflogwyr wedi’u rhoi ar waith neu y maent yn disgwyl eu rhoi ar waith i ymateb i effaith COVID-19.

Mae hwn yn rhan o raglen Cymru Iach ar Waith a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

%d bloggers like this: