04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Galw ar bobl gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel

MAE ymgyrch Dyletswydd Gofal Llywodraeth Cymru i annog pobl i helpu i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn cael ei hail-lansio yr wythnos hon.  Mae hyn i agfoffa deiliaid tai yng Nghymru bod yn rhaid iddynt ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob amser i gael gwared ar eitemau nad ydynt eu hangen o fewn eu cartrefi a sbwriel dros ben o’u cartrefi.

Mae dros 70% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn cynnwys sbwriel o gartrefi.  Mae’r ymgyrch, mewn partneriaeth â Taclo Tipio Cymru, yn galw ar bobl i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel, i gadw eu hardal leol yn lân ac i osgoi dirwyon a chael eu herlyn trwy ddefnyddio eu dyletswydd gofal i sicrhau eu bod yn gwybod ble y mae eu gwastraff yn mynd ac i beidio â’i roi yn nwylo tipwyr anghyfreithlon.

Er bod Cymru wedi arwain y ffordd o ran faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, bu pryder ynghylch y cynnydd mewn unigolion sy’n galw eu hunain yn fusnesau gwaredu gwastraff dilys ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ystod y cyfnod y bu’n rhaid i ganolfannau gwastraff ac ailgylchu gau dros dro  oherwydd y pandemig Covid.

Mae’r unigolion hyn yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol yn aml a’r prisiau isel i wneud i bobl gredu eu bod yn wasanaethau casglu sbwriel dilys, pan mewn gwirionedd mae’r gwastraff sy’n cael ei gasglu yn cael ei dipio yn anghyfreithlon mewn caeau, ar hyd lonydd cefn gwlad ac ar ochr y ffordd.

Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru yn annog pawb i ddefnyddio eu dyletswydd gofal a sicrhau fod pob gwastraff yn cael ei waredu yn gyfreithiol gan gludwr gwastraff cofrestredig, ac i hysbysu’r awdurdodau o unrhyw dipio anghyfreithlon.  Mae rhestr o gludwyr gwastraff cofrestredig i’w weld ar Wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae argymhellion eraill yn cynnwys gofyn i gasglwyr gwastraff ble y mae’r sbwriel yn mynd, gofyn am dderbyneb a chofnodi manylion y cerbyd a ddefnyddir.  Bydd y camau bychain hyn nid yn unig yn diogelu cartrefi rhag dirwyon a rhag cael eu herlyn, ond bydd hefyd yn helpu i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn y tymor hir.

Wrth i ganolfannau ailgylchu ledled Cymru ail-agor, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i holi eu hawdurdod lleol a dod i wybod pa gyfyngiadau neu systemau archebu sydd ar gael yn ogystal â gwybodaeth am ba eitemau sy’n cael eu casglu.

Meddai Hannah Blythyn y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae gan bawb yng Nghymru ddyletswydd gofal i gael gwared ar eu gwastraff o’u cartrefi mewn modd gyfrifol ac i wybod ble mae’r sbwriel yn mynd.  Drwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â thipio anghyfriethlon a chadw Cymru yn lân.

Dwi’n annog pawb yng Nghymru i ddefnyddio cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig ac i beidio â rhoi eu gwastraff cartref yn nwylo tipwyr anghyfreithlon, gan fod yn ymwybodol o dwyllwyr posibl a hysbysebion yn hyrwyddo gwasanaethau casglu gwastraff rhad.

Mae’r Awdurdodau Lleol yn gweithio’n galed ar y mater hwn ac nid wyf am weld unrhyw gartrefi yn cael eu twyllo neu eu dirwyo o bosibl o ganlyniad i ymddiried yn y casglwyr sbwriel anonest hyn i gael gwared ar eu gwastraff yn gyfreithiol.”

Meddai Rheolwr Rhaglen Taclo Tipio Cymru, Neil Harrison:

“Er iechyd a diogelwch pawb ac er parch i staff ein hawdurdod lleol sy’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau, gwnewch eich dyletswydd gofal a chael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol, tra’n cadw at reolau pellter cymdeithasol mewn canolfannau ailgylchu.

“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, ac mae’r rhai hynny sy’n troseddu, yn arbennig yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol, yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau staff, sydd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi, tra’n peryglu swyddogion gorfodi gwastraff sy’n ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon ac yn gael gwared arno.

Mae tipio anghyfreithlon yn achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol – gall y rhai sy’n cael eu dal yn tipio yn anghyfreithlon dderbyn dirwyon o hyd at £50,000 ac/neu 12 mis o garchar.”

Mae cadw Dyletswydd Gofal tuag at wastraff yn gwarchod unigolion rhag cael eu dirwyo neu eu herlyn, ond hefyd yn helpu i sicrhau bod yr unigolyn neu’r busnes sy’n cael gwared ar y gwastraff yn gwneud hynny yn ddiogel, yn gyfreithiol ac yn gyfrifol.  Mae rhestr o gludwyr gwastraff cofrestredig i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

%d bloggers like this: