03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Galwad i fywhau strydoedd trefi Ceredigion

MAE Cyngor Ceredigion yn gwahodd busnesau lleol i gyflwyno ceisiadau os hoffent fasnachu yn yr awyr agored yn nhrefi’r Sir i baratoi at dymor y gwanwyn/haf.

Yn ystod cyfnod pandemig COVID-19, pan oedd y cyfyngiadau’n parhau ar fasnachu dan do, aeth Cyngor Sir Ceredigion ati i alluogi busnesau i fasnachu yn yr awyr agored trwy ddefnyddio gofod ar y palmant a chaniatáu i gerddwyr grwydro’r strydoedd yn ddiogel.

Gan fod y cyfyngiadau bellach wedi llacio yng Nghymru, nid oes angen mesurau o’r fath mwyach. Fodd bynnag, croesawodd nifer o fusnesau lleol yr elfen o fasnachu yn yr awyr agored a ddaeth â bywiogrwydd ac egni o’r newydd i ardaloedd cyhoeddus yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Cheinewydd.

Er mwyn cynnal y bywiogrwydd hwnnw a hybu economi Ceredigion, gall busnesau lleol wneud cais nawr am drwydded fasnachu yn yr awyr agored trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Ni chaniateir masnachu yn yr awyr agored ar ôl 31 Mawrth 2022 os na fydd gan y masnachwr drwydded newydd.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd angen i fasnachwyr nodi’r union ardal y byddant am ei ddefnyddio a bydd hyn yn pennu’r ffi gofynnol. Bydd y cais yn cael ei adolygu a’i ymgynghori arno er mwyn casglu safbwyntiau a sicrhau bod digon o le ar y llwybr cerdded i gynnal y cynnig heb gael effaith niweidiol ar ddiogelwch cerddwyr a mynediad i bawb. Gallai’r broses gymryd hyd at 28 diwrnod.

Bydd hefyd angen i fusnesau sydd eisoes wedi bod yn masnachu yn yr awyr agored ailymgeisio am Drwydded Fasnachu yn yr Awyr Agored.

Gall busnesau sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion trwy anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570 881.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio:

“Croesawodd nifer o fasnachwyr y cyfle i fasnachu yn yr awyr agored yn ystod cyfnod heriol y pandemig. Nid yn unig y rhoddodd hyn hwb i’r economi, ond fe wnaeth hefyd ddod ag egni o’r newydd i’n trefi pan oedd arnom ei angen fwyaf. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau gan fusnesau lleol sy’n dymuno masnachu yn yr awyr agored unwaith eto eleni. Bydd hyn yn helpu i gynnal apêl y trefi ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Felly, dewch i ni ddod â’r strydoedd yn fyw.”

Bydd yna rai lleoliadau lle na fydd yn bosibl i fasnachu yn yr awyr agored oherwydd diffyg lle ar y palmant wrth yr eiddo, a hynny heb achosi poendod, rhwystr a pherygl i eraill ddefnyddio’r briffordd gyhoeddus yn ddiogel.

 

%d bloggers like this: