04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Glasbrint ar gyfer dyfodol mwy disglair i Gaerffili

MAE cynnydd sylweddol yn cael ei wneud mewn nifer o ddatblygiadau cyffrous a fydd yn helpu trawsnewid canol tref Caerffili dros y blynyddoedd i ddod.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a nifer o bartneriaid eraill i gyflwyno glasbrint uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y dref o’r enw Rhaglen Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035.

Mae cynlluniau i ddatblygu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd gwerth £30 miliwn yng nghanol y dref, ynghyd â buddsoddiad CADW o £5 miliwn ar gyfer gwaith datblygu yng Nghastell Caerffili, ac mae’r ddau yn brosiectau sy’n symud ymlaen yn gyflym.

Mae prosiect y gyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus wedi symud ymlaen yn ddiweddar i’r cam cyflawni o ymgynghori. Mae’r cyhoedd wedi cael y cyfle i rannu barn ar y prosiect arfaethedig. Bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu defnyddio i ffurfio cynnig a fydd yn gweddu i anghenion y gymuned.

Gwnaeth y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sylwadau ar y cynnydd cadarnhaol sydd wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf:

“Yn ôl ym mis Ionawr, dadorchuddiodd Cyngor Caerffili lasbrint cyffrous ar gyfer trawsnewid canol tref Caerffili a’r ardal gyfagos yn y dyfodol. Chwe mis yn ddiweddarach, rydw i wrth fy modd â’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud i fwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn. Bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth yn ganolbwynt strategol hanfodol a fydd yn cysylltu canol y dref â’r seilwaith trafnidiaeth angenrheidiol i sefydlu Caerffili fel un o’r prif atyniadau i dwristiaid.

“Hefyd, rydyn ni newydd lansio nifer o geisiadau ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth cyfanswm o £80 miliwn a fydd, os yn llwyddiannus, yn helpu adfywio’r Fwrdeistref Sirol ehangach.

“Mae’n amlwg bod dyfodol canol tref Caerffili a’r Fwrdeistref Sirol ehangach yn ddisglair ac rydyn ni’n cymryd camau breision tuag at gyflawni ein glasbrint Caerffili 2035 ni.”

Gyda chymorth Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i asesu dichonoldeb nifer o gynlluniau eraill i ddatblygu:

Datblygiad manwerthu a phreswyl cymysg mawr gwerth £15 miliwn yn Pentrebane Street, gyda’r Cyngor, ar hyn o bryd, yn edrych ar opsiynau i adleoli masnachwyr o’r farchnad dan do bresennol;

Creu datblygiad gwesty ‘bwtîc’ newydd yn Park Lane; a

Cynlluniau i greu ardal hamdden newydd uchelgeisiol yn cynnig cyfleoedd hamdden, manwerthu, masnachol a busnes newydd yng nghanol y dref.

Mae newyddion positif arall o ran y dref gydag agoriad swyddogol bragdy newydd Brew Monster. Mae hen uned Plumbsave yn Lôn-y-Twyn wedi’i hadnewyddu’n llwyddiannus ac mae’n nodi’r prosiect cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o raglen Caerffili 2035.

Meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd:

“Mae Rhaglen Caerffili 2035 yn ymwneud â symud canol tref Caerffili ymlaen, nid mater o setlo ar gyfer yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rydyn ni am i Gaerffili ddod yn gyrchfan enwog i bobl y Fwrdeistref Sirol a’r rhai sy’n dymuno defnyddio’r dref. Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf yw’r dechrau o’n taith ni tuag at gyflawni hyn.

“Agoriad bragdy Brew Monster yw’r cyntaf o nifer o brosiectau sydd wedi’u cyflawni ar gyfer yr ardal leol ac rydw i’n siŵr bod pobl leol eisoes yn mwynhau’r lleoliad newydd.

“Mae’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar brosiect y gyfnewidfa drafnidiaeth a’r gwaith ailddatblygu parhaus yng Nghastell Caerffili i gynnwys canolfan groeso newydd gyda derbynfa, caffi ac ystafell gotiau; mannau eistedd y tu allan; gwell arddangosiad a dehongliad o’r ased hanesyddol; gwell darpariaeth manwerthu a swyddfa docynnau; a Neuadd Fawr ar ei newydd wedd wedi’i basio. Rydyn ni’n archwilio opsiynau ar gyfer marchnad newydd a rhagor o ddigwyddiadau yn y dref, ac mae llawer mwy o syniadau yn cael eu hystyried”.

%d bloggers like this: