03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gobaith ar y gorwel, ond mwy i’w wneud medd arweinydd Cyngor Sir Gar

ERBYN  hyn, mae gobaith o amseroedd gwell i ddod, dywed Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, wrth i achosion Covid-19 barhau i ostwng.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau symud yn parhau ac y bydd cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar ar waith am dair wythnos arall, er mwyn ceisio lleihau nifer yr achosion ymhellach fyth.

Ar hyn o bryd, mae cyfradd yr haint yn Sir Gaerfyrddin yn 187 fesul 100,000 o’r boblogaeth (data’n gywir am 9am, 28/01/21) – ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan.

Mae’r rhaglen frechu hefyd yn cyflymu, ac mae 17,677 o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn – sef 9.4 y cant o boblogaeth Sir Gaerfyrddin (data’n gywir ar 28/01/21).

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, fod gobaith yn awr i’w weld ar y gorwel, ond ailadroddodd alwadau i bobl barhau i gadw at y rheolau.

“Mae’n galonogol iawn gweld y darlun yn gwella yn Sir Gaerfyrddin, ond mae’n amlwg bod angen gwneud mwy,” meddai. “Mae Covid-19 yn dal i effeithio ar ormod o deuluoedd ledled y sir – y rhai sydd wedi colli pobl maen nhw’n eu caru, y rhai sy’n ymladd dros eu hiechyd, a’r rhai sy’n gweld eisiau eu ffrindiau a’u teulu.
“Drwy gydweithio, rydym yn gwneud gwahaniaeth. Daliwch ati i wneud popeth posibl i ddiogelu eich gilydd – arhoswch gartref a pheidiwch â mynd allan oni bai ei bod yn hanfodol.”

Yn ddiweddar amlinellodd y Prif Weinidog, sef yr Athro Mark Drakeford, gynlluniau i helpu plant i fynd yn ôl i’r ysgol.

Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai plant ysgolion cynradd ddychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor, o 22 Chwefror. Caiff myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eu blaenoriaethu hefyd wrth ailagor colegau yn raddol.

Hefyd cyhoeddodd ddau newid bach i’r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar sydd ar waith ar hyn o bryd, a fydd yn dod i rym ddydd Sadwrn, 30 Ionawr, 2021:

Caiff dim mwy na dau berson o wahanol aelwydydd wneud ymarfer corff yn yr awyr agored gyda’i gilydd, ond rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i’r ymarfer corff ddechrau a gorffen wrth y cartref – ni chaniateir gyrru i fannau prydferth i wneud ymarfer corff o hyd.

Os yw swigen gefnogaeth wedi dod i ben, ceir ffurfio un newydd, ond rhaid aros 10 diwrnod cyn gwneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn newydd gwerth £200 miliwn ar gyfer busnesau twristiaeth, hamdden, lletygarwch a siopau nad ydynt yn hanfodol i helpu cwmnïau gyda’u costau gweithredu.

Caiff busnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 daliadau cymorth o rhwng £3,000 a £5,000.

Mae cyfyngiadau lefel rhybudd 4 yn golygu bod yn rhaid i bawb:

Aros gartref; gweithio gartref os gallant wneud hynny; cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill; gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do a hefyd peidio â chwrdd ag unrhyw un nad yw’n perthyn i’ch aelwyd neu eich swigen gefnogaeth.

 

%d bloggers like this: