03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gofal Plant a Gweithgareddau ystod Gwyliau’r Haf yn RCT

MAE disgwyl i 11 lleoliad newydd elwa ar weithgareddau gofal plant, sef Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol, yn ystod yr haf eleni.

Mae’r Cyngor wedi gwneud cais am arian er mwyn cynnig gofal plant a gweithgareddau i blant 5-11 oed mewn ysgolion prif ffrwd, ac i blant 5-16 oed mewn ysgolion arbennig, yn ystod gwyliau’r haf rhwng 21 Gorffennaf a 5 Awst 2021. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael am 12 diwrnod olynol, rhwng 9am ac 1.15pm.

Bydd y cynnig yma ar gael mewn 15 ysgol ledled Rhondda Cynon Taf – Ysgol Gynradd Craig-yr-hesg; Ysgol Gynradd Parc y Darren, Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói; Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen; Ysgol Gynradd Llanharan; Ysgol Gyfun Aberpennar; Ysgol Gynradd Pen-rhys; Ysgol Gynradd Pen-y-waun; Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn; Ysgol Gymuned y Porth; Ysgol Gymuned Tonyrefail; Ysgol Gynradd Ynys-boeth; Ysgol Nantgwyn; Ysgol Hen Felin; Ysgol Tŷ Coch.

Meddai’r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol y Cyngor yn darparu man diogel dan oruchwyliaeth er mwyn i ddisgyblion gymdeithasu gyda’i gilydd yn ystod gwyliau’r Ysgol, a hynny ar adeg pan nad ydyn nhw’n gweld ei gilydd fel arfer.

“Mae gwaith cynllunio wrthi’n cael ei gynnal i ehangu’r ddarpariaeth yma i 11 lleoliad newydd yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod yr haf eleni.

“Yn anffodus, gall llwgu yn ystod y gwyliau ac arwahanrwydd cymdeithasol ddigwydd weithiau lle nad oes gan rieni na’u plant fynediad i’r cymorth sydd ar gael yn ystod tymor yr ysgol dros gyfnod estynedig gwyliau’r haf. Mae’r rhaglen hefyd yn galluogi rheini i barhau i weithio pan nad oes trefniadau gofal plant eraill ar gael.

“Bwriad y rhaglen yw rhoi brecwast a phryd amser cinio iach, yn ogystal â chyfleoedd, i bobl ifainc y lleoliadau yma fanteisio ar ystod o weithgareddau ystyrlon trwy chwarae, chwaraeon a sesiynau i fod yn greadigol.

“Yn rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer y rhaglen eleni, mae’r Cyngor yn ceisio ymgysylltu ag ystod eang o wasanaethau eraill y Cyngor i ategu’r rhaglen a’r cymorth sydd ar gael i bobl ifainc.”

Bydd gwaith cynllunio parhaus y rhaglen eleni yn ymateb i gyngor a chyfyngiadau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus.

Bydd gwybodaeth am sut i fanteisio ar y ddarpariaeth yma ar gael cyn diwedd mis Mai.

%d bloggers like this: