03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gofyn am barn i helpu lunio Cynllun Cyngor Ynys Môn 2022-27

MAE trigolion lleol Môn yn cael eu hannog i hysbysu’r Cyngor Sir a’i bartneriaid am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw er mwyn eu cynorthwyo i lunio blaenoriaethau’r dyfodol.

Mae proses ymgysylltu ar y cyd dros bum wythnos yn dechrau heddiw (Dydd Iau, 10 Chwefror) wrth i Ynys Môn geisio cytuno ar nodau ac amcanion Cynllun y Cyngor ar gyfer 2022-27.

Mae’r Cyngor Sir yn cynnal proses ymgysylltu eang a chynhwysol gyda Medrwn Môn, sydd yn darparu cefnogaeth a chyngor i gyrff gwirfoddol a chymunedol, ac Age Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl hyn yng Nghymru.

Uchelgais y Cyngor yw gweithio gyda phobl Ynys Môn, ei chymunedau a’i phartneriaid i sicrhau gwasanaethau o safon uchel fydd yn gwella ansawdd bywyd i bawb.

Caiff trigolion cael dweud eu dweud fel rhan o arolwg ar-lein “Blaenoriaethau Ynys Môn: Eich Barn” 

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd copïau papur ar gael hefyd yn canolfannau hamdden, llyfrgelloedd (gan gynnwys y llyfrgell symudol) ac yn nerbynfa Cyswllt Môn ym mhrif swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.

Bydd yr arolwg ar-lein ar gael hyd at 18fed Mawrth 2022.

Gofynnir barn am nifer o feysydd – yn amrywio o gyfleoedd cyflogaeth a theithio i faterion iechyd; o fynediad a chydraddoldeb i gwtogi ein allyriadau carbon.

Dywedodd Prif Weithredwr Ynys Môn, Annwen Morgan:

“Yn ystod y pum wythnos nesaf, hoffwn glywed gan drigolion Ynys Môn – er mwyn inni ddeall mwy am eu blaenoriaethau, eu pryderon a’u dyheadau ar gyfer Ynys Môn. Bydd adborth gan y cyhoedd yn rhan bwysig o’r broses wrth inni fynd ati i lunio a dylanwadu ar Gynllun y Cyngor 2022-27 a chytuno ar sut y gallwn wella ansawdd bywyd ein cymunedau a’n trigolion drwy waith partneriaeth gynhwysol.”

Ychwanegodd, “Byddwn yn sicrhau hefyd fod lleisiau pobl ifanc, oedolion hŷn yr Ynys, a’r grwpiau hynny sydd yn anodd ymgysylltu ȃ nhw yn cael eu clywed trwy drefniadau ar wahân, fel rhan o’n proses ymgysylltu eang gyda Medrwn Môn ac Age Cymru.”

Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau. Mae’n gwbl ddienw ond bydd cyfle i chi roi eich manylion cyswllt os ydych yn dymuno cael gwybod am ganlyniadau’r arolwg a chael gwybod mwy am Gynllun y Cyngor 2022-2027.

Bydd copïau papur ar gael hefyd yn canolfannau hamdden, llyfrgelloedd (gan gynnwys y llyfrgell symudol) ac yn nerbynfa Cyswllt Môn ym mhrif swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi:

“Mae ymgysylltu cydweithredol yn bwysig os ydym am sicrhau fod gan y Cyngor Sir gynlluniau cadarn ac ystyrlon ar gyfer y dyfodol. Bydd mewnbwn gan ein trigolion, cymunedau a’n partneriaid yn hanfodol ar gyfer cyflawni ein blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf.”

“Yn ddi-os, bydd heriau o’n blaenau wrth i ni ddod allan o’r pandemig Coronafeirws. Drwy gydweithio, fodd bynnag, gyda phobl Ynys Môn, ei chymunedau a’n partneriaid rydym yn gobeithio sicrhau gwell dyfodol i bawb.”

%d bloggers like this: