04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gofyn am barn y bobl ar Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn Nhref Conwy

 

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofyn i bobl roi eu barn ar Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn Nhref Conwy yn dilyn newid yn y gyfraith.

Hyd at 2020, roedd Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig ar waith yn y dref oedd yn caniatáu i’r Heddlu ofyn i bobl roi’r gorau i yfed alcohol neu’n caniatáu iddynt fynd ag alcohol oddi ar bobl os oeddent yn teimlo ei fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau agored. Mae deddfwriaeth newydd wedi disodli’r gyfraith oedd yn caniatáu’r Gorchymyn hwnnw a bellach mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru eisiau cyflwyno’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus dan y rheoliadau newydd i ganiatáu i gamau tebyg gael eu cymryd os oes angen.

Mae ymgynghoriad ar agor am 6 wythnos o 14 Mawrth hyd at 25 Ebrill. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig e-bostio SaferConwy@conwy.gov.uk neu ysgrifennu at Bennaeth y Gwasanaethau Rheoleiddio a Thai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy LL30 9GN, yn rhoi rhesymau pam eu bod yn gwrthwynebu.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Os bydd y Gorchymyn yn cael ei gyflwyno, bydd yn golygu y bydd unrhyw un sy’n gwrthod rhoi’r gorau i yfed alcohol, neu sy’n gwrthod ildio’r alcohol pan fydd Swyddog yr Heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gofyn, yn agored i gael dirwy neu Rybudd Cosb Benodedig. Ni fydd y Gorchymyn yn gosod ‘parth dim yfed’ yn y dref.

Byddai’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn cynnwys ardal tref Conwy, yn cynnwys y Stryd Fawr, y Cei, yr orsaf drenau a pharc Bodlondeb.

 

 

%d bloggers like this: