MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl mewn grwpiau blaenoriaeth brechlyn 1 i 3 gysylltu cyn gynted â phosibl os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad brechlyn COVID-19 eto.
Gyda phwy i gysylltu:
• Grŵp blaenoriaeth 1 – staff cartrefi gofal – cysylltwch â 0300 303 8322* neu e-bostiwch eich enw, teitl swydd a sefydliad, rhif ffôn symudol a’r ganolfan frechu dorfol agosaf at COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
• Grŵp blaenoriaeth 2 – staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen – e-bostiwch eich enw, teitl swydd a sefydliad, rhif ffôn symudol a’r ganolfan frechu dorfol agosaf at COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
• Grŵp blaenoriaeth 2 – pobl 80 oed a hŷn – cysylltwch â’ch meddygfa yn uniongyrchol.
• Grŵp blaenoriaeth 3 – pobl 75 i 79 oed – ffoniwch 0300 303 8322 * neu e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Mae’r gwasanaethau iechyd yn cael eu boddi gan alwadau, e-byst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol gan y cyhoedd sy’n ymholi am y brechlyn. Os nad ydych yn un o’r grwpiau blaenoriaeth a restrir uchod, peidiwch â chysylltu â’r bwrdd iechyd neu’ch meddyg teulu ynglŷn â’r brechlyn ar yr adeg hon.
Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hyderus y bydd pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 yn cael cynnig brechlyn erbyn dydd Llun 15 Chwefror diolch i ymdrechion anhygoel timau brechu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
“Fodd bynnag, mae pobl yn newid rhifau ffôn neu’n symud i dŷ newydd ac efallai na fyddant bob amser yn diweddaru eu manylion cyswllt gyda’r gwasanaethau iechyd. Dyma pam rydyn ni am wneud yn hollol siŵr nad oes unrhyw un wedi colli apwyntiad i gael eu brechu. ”
* Mae llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, dydd Sadwrn 6 Chwefror yn unig rhwng 10am a 4pm, a dydd Sul 7 Chwefror yn unig rhwng 10am a 3pm.
——————————————————————————————
Hywel Dda University Health Board is asking people in vaccine priority groups 1 to 3 to get in touch as soon as possible if they have not yet received a COVID-19 vaccine appointment.
Who to contact:
Priority group 1 – older adult care home staff – please contact 0300 303 8322 * or email your name, job title and organisation, mobile phone number and nearest mass vaccination centre to COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Priority group 2 – frontline health and social care staff (including agency) – please contact 0300 303 8322* or email your name, job title and organisation, mobile phone number and nearest mass vaccination centre to COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Priority group 2 – people aged 80 and over – please contact your GP practice directly.
Priority group 3 – people aged 75 to 79 – please phone 0300 303 8322* or email COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Health services are being inundated with calls, emails and social media messages from the public enquiring about the vaccine. If you are not in one of the priority groups listed above please do not contact the health board or your GP regarding the vaccine at this time.
Steve Moore, Chief Executive of Hywel Dda UHB, said: “We are confident that everyone in priority groups 1 to 4 will be offered a vaccine by Monday 15 February thanks to the amazing efforts of vaccinating teams across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.
“However, people change phone numbers or move to a new house and may not always update their contact details with health services. This is why we want to make absolutely sure no one has missed an appointment for their vaccination.”
*Phonelines are open Monday to Friday between 9am to 5pm, Saturday 6 February only between 10am to 4pm, and Sunday 7 February only between 10am to 3pm.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m