04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gofyn i’r gynulleidfa / Ask the audience

GOFYNNIR i drigolion Rhydaman am eu barn ynghylch ailenwi Theatr y Glowyr.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried ailenwi’r theatr gan ddefnyddio’r enw ‘Glowyr’ yn unig – i’w helpu i sefyll allan ymhlith theatrau eraill o’r un enw ledled Cymru.

Byddai hyn yn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â dwy theatr arall sy’n eiddo i’r cyngor sef y Ffwrnes yn Llanelli a’r Lyric yng Nghaerfyrddin sy’n enwau unigol.

Mae’r cyngor yn awyddus i gael barn pobl cyn gwneud y newid.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn gweld hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu brand Theatrau Sir Gâr ymhellach a chryfhau hunaniaeth theatr Rhydaman. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad hoffem gasglu barn ein cynulleidfaoedd lleol.”

Gall pobl rannu eu barn ar-lein https://bit.ly/3cauRqm

Residents in Ammanford are being asked their views on the renaming of The Miners’ Theatre.

Carmarthenshire County Council is considering renaming the theatre ‘Glowyr’ the Welsh word for Miners – to help it stand out from other theatres named the Miners across Wales.

This would bring it in line with two other theatres owned by the council – Ffwrnes theatre in Llanelli and the Lyric theatre in Carmarthen which are singular names.

The council wants to hear people’s views before making the change.

Cllr Peter Hughes Griffiths Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, said: “We see this as an exciting opportunity to take the Theatrau Sir Gar brand forward and strengthen the identity of Ammanford’s theatre. Before any decision is made we would like to gather the thoughts of our local audiences.”

People can share their views online at https://bit.ly/3cauRqm

 

 

 

%d bloggers like this: