04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gofyn i’r rhai sy’n gyfrifol am feysydd chwarae plant yng Ngheredigion fod yn wyliadwrus

YN dilyn y cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19 yng Ngheredigion, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ysgrifennu at aelodau o’r Rhwydwaith Ardal Chwarae i’w hannog i ystyried eu cyfleuster eu hunain, p’un a ydynt eisoes ar agor i’r cyhoedd neu maent yn bwriadu ailagor yn fuan.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS y bydd meysydd chwarae plant yn gallu ailagor yn raddol o 20 Gorffennaf, 2020 ymlaen, a thros yr wythnosau nesaf pan fydd mesurau diogelu a lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith.

Mae 86 o fannau chwarae cymunedol yng Ngheredigion. Mae 85 ohonynt naill ai yn eiddo i Gynghorau Tref a Chymuned neu Grwpiau Cymunedol neu yn cael eu rheoli ganddynt. Mae un yn eiddo i Gyngor Sir Ceredigion, sef Netpool yn Aberteifi. Bydd y man chwarae yn Netpool yn aros ynghau am y tro.

Ar 7 Medi 2020 gwnaeth y Cyngor gynghori aelodau Rhwydwaith Ardaloedd Chwarae Ceredigion, os eich bod chi’n penderfynnu ailagor, rhaid i chi sicrhau bod eich cyfleuster mor ddiogel â phosibl. Penderfyniad perchennog/gweithredwr y cyfleusterau hyn os ydynt am ailagor ai peidio.

Yn yr amser hwnnw, mae rhai unigolion neu grwpiau sy’n gyfrifol am feysydd chwarae wedi rhannu gyda ni eu cynllunau i ailagor eu cyfleuster, mae eraill wedi nodi eu bod yn dymuno aros ar gau am y tro.

Er mwyn diogelu ein cymunedau, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i ffrwyno’r risg o drosglwyddo pellach, mae hyn yn cynnwys mewn parciau chwarae. Felly mae’n rhaid i ni ofyn i’r rhai sy’n gyfrifol ystyried ai nawr yw’r amser iawn i ailagor eich ardal chwarae. Mae’n holl bwysig eich bod yn hyderus bod y cyfleusterau yma’n ‘Barthau Di-Gofid’.

Mae’n ddealladwy bod hyn yn siom i rai preswylwyr nad yw pob man chwarae yn gwbl weithredol. Fodd bynnag, er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r salwch difrifol yma, mae preswylwyr yn cael eu hannog i fod yn gyfrifol bob amser. Er mwyn ceisio osgoi’r risg o gloi i lawr yn lleol, mae’n rhaid i ni weithredu nawr.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynglŷn â’r coronafeirws i’w gweld ar wefan y Cyngor. Rhif ffôn Canolfan Gyswllt Gorfforaethol y Cyngor yw 01545 570881.

%d bloggers like this: