04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gohirio’r dyddiad gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

MAE Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi gohirio’r dyddiad gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi Cymru.

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd:

‘ Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau gan landlordiaid, yn enwedig landlordiaid cymdeithasol, sydd wedi gofyn am oedi cyn gweithredu’r Ddeddf. O’r herwydd, ac yn sgil y pwysau digynsail, gan gynnwys adfer ar ôl COVID a chymorth i’r rhai sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin, rwyf wedi penderfynu gohirio gweithredu’r Ddeddf hyd 1 Rhagfyr 2022. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i landlordiaid gwblhau’r gwaith paratoi sydd ei angen cyn i’r Ddeddf gael ei gweithredu.

Yn anaml iawn y gwelir y math o ddiwygio llwyr y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn arwain ato – unwaith mewn cenhedlaeth efallai. Rwyf am wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod gan landlordiaid ddigon o amser i wneud y gwaith paratoi sydd ei angen i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf.

Rwy’n gwerthfawrogi y bydd yr oedi hwn, er ei fod yn gymharol fyr, yn destun rhwystredigaeth i rai o’n partneriaid, yn enwedig y rheini sy’n awyddus i weld yr amddiffyniadau gwell y bydd y Ddeddf yn eu darparu.

Rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth honno, ond rwy’n cydnabod bod paratoi contractau ar gyfer tenantiaid newydd a sicrhau bod yr adeiladau’n bodloni’r safonau addasrwydd a amlinellir yn y ddeddfwriaeth yn peri cryn waith – yn enwedig ar gyfer y landlordiaid hynny sy’n gyfrifol am lawer o adeiladau. Rwyf hefyd yn derbyn y byddai’n fuddiol i landlordiaid o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn ogystal ag asiantiaid gosod a rhanddeiliaid eraill, gael amser ychwanegol i ymgyfarwyddo â’r gwahanol ddarnau o is-ddeddfwriaeth – y bydd y gyfres olaf ohonynt yn cael eu gwneud ym mis Gorffennaf – cyn i’r Ddeddf ddod i rym.

Rwy’n cydnabod yn llawn y problemau mae newid o’r hen system gyfarwydd i fframwaith deddfwriaeth hollol newydd yn eu peri i landlordiaid ledled Cymru. Yn enwedig mewn cyfnod lle rydym yn parhau i ymdrin â sgil-effeithiau’r pandemig, a lle rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i groesawu pobl sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin i Gymru.

Er hynny, rwy’n hollol siŵr y bydd y diwygio hwn yn arwain at lawer o fanteision hirdymor i landlordiaid a’r rhai sy’n rhentu eu cartref.”

%d bloggers like this: