04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Golau gwyrdd i ymgynghoriad ar gynllun ysgol gynradd Cymraeg newydd ym Mynachlog Nedd

MAE cynghorwyr wedi rhoi caniatâd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer cynlluniau i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghastell-nedd.

Pe bai’n cael ei chymeradwyo, byddai’r ysgol arfaethedig, a fyddai hefyd yn cynnwys lle i 45 o blant meithrin a lleoliad gofal plant i 12 o blant, yn cael ei lleoli ar safle Ysgol Gynradd Mynachlog Nedd, Teras St Johns (Yn y llun), a fydd yn dod yn wag yn fuan ar ôl i ysgol gynradd cyfrwng Saesneg Abbey symud allan.

Yn eu cyfarfod ar 19 Ionawr 2022, cytunodd aelodau o Fwrdd Cabinet Addysg, Sgiliau a Diwylliant Cyngor Castell-nedd Port Talbot y dylai’r cynllun ar gyfer yr ysgol cyfrwng Cymraeg fynd i ymgynghoriad cyhoeddus.

Cefndir y cynnig yw bod pwysau ar gyfer lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg wedi codi yn ardaloedd Mynachlog Nedd, Sgiwen a Chrymlyn dros y blynyddoedd diweddar. Cyfrannodd datblygiadau tai newydd yng Nghrymlyn a Choed Darcy yn enwedig at y cynnydd.

Cyflwynodd y Cyngor fynegiant o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref i gael cyllid cyfalaf cyfrwng Cymraeg penodol i gefnogi’r ysgol arfaethedig, gyda’r nod o adnewyddu, ailfodelu ac addasu’r adeiladau presennol ar safle Teras St John Abbey Primary.

Mae Ysgol Gynradd Abbey’n gweithredu dros dri safle ar wahân ar hyn o bryd, a bwriedir adleoli’r ysgol yn ystod mis Mawrth 2022 i adeilad newydd sbon un safle sydd wrthi’n cael ei adeiladu yn Heol Penlan yn ardal Longford yng Nhgastell-nedd.

Y cynnig yw y gallai’r ysgol cyfrwng Cymraeg agor ar gyfer disgyblion meithrin rhan amser ym mis Ionawr 2023 gyda’r cohort cyntaf o ddisgyblion derbyn llawn amser yn disgwyl cael mynychu’r ysgol o fis Medi 2023.

Yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Rees:

“Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan greiddiol a hanfodol o’r cynnig addysgu yng Nghastell-nedd Port Talbot a dylai pob plentyn elwa o’r cyfle i ddysgu, gwerthfawrogi a deall eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Seilir yr egwyddor hon ar sicrhau mynediad cyffredinol i’r ddarpariaeth hon ar draws y fwrdeistref sirol. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod fod iaith a diwylliant yn rhannau hanfodol o hunaniaeth unigolion ac mae wedi ymrwymo i hybu a dathlu addysg Gymraeg ar draws pob cam a sector.”

Cynllun Strategol drafft Cymraeg mewn Addysg (WESP) 2022-32 Castell-nedd Port Talbot yw conglfaen gweledigaeth y cyngor ar gyfer cynyddu a gwella cynllunio darpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot – gan alluogi pob dysgwr i ddatblygu’u sgiliau iaith a defnyddio’r iaith yn hyderus yn eu bywyd beunyddiol.

Nod cyffredinol Castell-nedd Port Talbot dros y deng mlynedd nesaf yw cynyddu’r nifer o blant Blwyddyn 1 a ddysgir drwy gyfrwng y Gymraeg o 16.8% (252 disgybl) yn 2020/21 (PLASC 2021) i 31% (460 disgybl) erbyn 2032.

Rhagwelir y bydd lleoli ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y lleoliad hwn yn lleddfu problemau lle yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd ac Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn fel ei gilydd (y ddwy ysgol bron yn llawn neu’n llawn eisoes) ac y bydd yn symbylu mwy o alw am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae niferoedd a chanran disgyblion dosbarth derbyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn o’r bron gyda’r ganran yn uwch nawr nag y bu ers 2013.

Mae cyfanswm y gwariant hyd yn hyn (Bandiau A a B) dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn moderneiddio ystâd ysgolion Castell-nedd Port Talbot bellach wedi cyrraedd £165m – buddsoddiad enfawr yng nghenedlaethau Castell-nedd Port Talbot sydd ar eu prifiant, a’r gwariant mwyaf gan unrhyw gyngor yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd.

Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn brosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Mae’n rhaglen fuddsoddi cyfalaf hirdymor a strategol gyda’r nod o greu cenhedlaeth o Ysgolion yr 21ain Ganrif ledled Cymru.

%d bloggers like this: