03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Golau gwyrdd i’r cynlluniau ar gyfer ysgol pob oed y Fenni

MAE Cyngor Mynwy wedi cymeradwyo’r cynlluniau am ysgol newydd pob oed 3-19 yn Y Fenni, y disgwylir iddi agor ei drysau yn 2024.

Caiff yr ysgol arfaethedig ei datblygu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy sy’n ymrwymiad Cymru’n Un ac yn gywaith unigryw rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau. Mae’n rhaglen buddsoddiad cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol gyda’r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion cynaliadwy yng Nghymru.

Wedi’i hariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae’r ysgol 3-19 arfaethedig yn ailddatblygiad o safle presennol Ysgol Uwchradd Brenin Harri VIII, yn cyfuno gydag Ysgol Gynradd Deri View i greu ysgol pob oed gyntaf Sir Fynwy.

Bydd yr ysgol pob oed yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer 1200 o ddisgyblion oedran uwchradd (11-16), 200 lle ôl-16, 420 lle ysgol gynradd, 30 disgybl meithrin cyfwerth ag amser llawn, yn cynnwys lleoedd o fewn yr ysgol ar gyfer dros 70 disgybl gydag anghenion niwroddatblygiadol a dysgu cymhleth. Bydd hefyd yn ysgol fro, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau tu hwnt i’r diwrnod ysgol i helpu diwallu anghenion ei disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned yn ehangach. Caiff safle’r ysgol ei rannu gyda Chanolfan Hamdden y Fenni a bydd yn parhau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer defnydd y gymuned yn ystod y diwrnod ysgol a hefyd ar ôl oriau ysgol.

Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:

“Mae’n newyddion gwych fod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer yr ysgol pob oed. Bydd yr ysgol newydd yn dod â llawer o fanteision cymdeithasol i dref y Fenni. Mae’n fuddsoddiad pwysig i’r gymuned gyfan ac ar gyfer dyfodol y myfyrwyr fydd yn cael y budd mwyaf o’r datblygiad hwn.

“Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae’r ethos hwn yn ganolog i bopeth a wnawn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy. Bydd naw ysgol yn bwydo i’r ysgol bob oed yma.”

Ychwanegodd y Cyng. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg:

“Rwyf wrth fy modd fod y prosiect hwn yn awr wedi cael tri golau gwyrdd ac yn barod i symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae hefyd yn galonogol iawn i weld pa gyfleusterau gafodd eu hystyried ar gyfer disgyblion gydag anghenion niwroddatblygiadol a dysgu cymhleth.

Mae hwn yn amser cyffrous iawn i bobl ifanc y Fenni a hefyd y dref ei hunan. Bydd y gymuned o amgylch yn cael llawer iawn o fudd o’r ysgol pob oed ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn datblygu dros y ddwy flynedd nesaf.”

Yn unol ag ymrwymiadau Argyfwng Hinsawdd Sir Fynwy, yr adeilad fydd yr ysgol pob oes carbon sero net gyntaf i weithredu yng Nghymru, gan ddefnyddio ynni isel wrth gael ei hadeiladu a’i gweithredu, gyda ffocws ar ostwng pwysau yn sylweddol ar gyllidebau cynnal a chadw cynlluniedig ac ymatebol y dyfodol.

%d bloggers like this: