04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

CYNIGODD Gwesty’r Celtic Manor ddwy rownd o golff i ofalwyr maeth awdurdod lleol Gwent fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth.

Derbyniodd sawl gofalwr gwrywaidd y cynnig caredig hwn gan dreulio ychydig o oriau yn ymlacio ar y cwrs ar y Ffordd Rufeinig.

Mae awdurdodau lleol yn gwerthfawrogi eu holl ofalwyr maeth ond maent yn cydnabod bod cefnogaeth gan gymheiriaid yn bwysig, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn dal i weld y rôl fel un fenywaidd yn draddodiadol.

O’n profiad ni gall pobl o lawer o wahanol gefndiroedd gynnig cariad, diogelwch a chartref hapus i blant a phobl ifanc.

I rai plant, gall gofalwyr maeth gwrywaidd fod y model rôl gwrywaidd cadarnhaol cyntaf yn eu bywydau a gallant chwarae rhan hanfodol wrth lunio eu dyfodol.

Mae gan Gasnewydd grŵp #MenWhoCare sy’n cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid ac mae’n rhan o’r pecyn o gymorth ychwanegol a ddarperir i’r rhai sy’n maethu ar ran cynghorau yn ogystal â lwfansau a chymorth proffesiynol gan weithwyr cymdeithasol.

Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu ac i ddangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Eleni, mae’n dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 23 Mai. Y thema yw #PamRydymYnGofalu

Llun – Ian Capper, Creative Commons

%d bloggers like this: