MAE gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful wedi derbyn peiriant llenwi poteli dŵr wedi i ddisgyblion mewn ysgol gynradd, leol berswadio Cynghorwyr bod galw amdano.
Cyfranogodd saith aelod o Gyngor Ysgol, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair mewn cyfarfod ar Teams gyda’r Cabinet er mwyn lleisio’u syniad mewn cyflwyniad ar-lein yn gynharach eleni.
Yr ysgol oedd y gyntaf ym Merthyr Tudful i dderbyn Dyfarniad AUR Parchu Hawliau UNICEF ar gyfer ysgolion yn 2018 a llwyddodd y deg disgybl 11 oed i berswadio’r Cynghorwyr fod cael dŵr yfed, glân yn yr orsaf yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant pobl.
“Mae’r uned yn awr yn ei lle yn y prif gyntedd,” meddai Ross Williams, Arweinydd y Prosiect ar gyfer y prif gontractwr, Morgan Sindall. “Mae hyn o ganlyniad i waith caled, angerdd a gwaith tîm Cyngor Ysgol y Santes Fair a’i hymroddiad i newid cadarnhaol.
“Mae Cyngor yr Ysgol wedi gweithio’n galed ar ei gyflwyniad ac wedi ymchwilio pob agwedd yn drwyadl. Roedd arwyddion clir iddynt roi ystyriaeth i bawb, nid hwy eu hunain yn unig ac roeddent yn cynrychioli’r gymuned leol ac eraill.”
Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £11 miliwn i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf sydd wedi ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref er mwyn cydfynd â’r buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd.
Bydd gwaith ar yr orsaf yn cael ei gwblhau ym mis Mai.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m