04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gosod rheiliau i atal cynulliadau torfol yn SA1

MAE rheiliau dros dro yn cael eu gosod yn Ice House Square yn SA1 yn Abertawe i helpu i atal cynulliadau torfol yn yr ardal a chadw pobl yn ddiogel.

Mae’r cam hwn wedi’i gymryd yn dilyn trafodaeth rhwng Cyngor Abertawe, Heddlu De Cymru a Llywodraeth Cymru, sy’n berchen ar y tir, mewn ymateb i bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn yr wythnosau diweddar.

Ice House Square ger Kings Road a’r hwylbont oedd un o’r ardaloedd yn SA1 lle cafwyd cynulliadau torfol yn yr wythnosau diweddar.

Meddai Mark Wade, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cyngor Abertawe,

“Mae’n anffodus y bu’n rhaid cymryd y cam hwn. Rydym yn deall bod pobl am fynd allan ar ôl cyfnod hir o gyfyngiadau. Ond, mae’r golygfeydd a welwyd yn ddiweddar o grwpiau mawr o bobl yn ymgasglu yn SA1 yn gwbl annerbyniol.

“Mae’r feirws yn dal i fod yma ac mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn dilyn y rheolau. Ond mae ymddygiad lleiafrif swnllyd, gwrthgymdeithasol yn peryglu llacio’r cyfyngiadau ir gweddill ohonom.”

Meddai Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, Declan Cahill,

“Rydym yn gwybod ac yn deall fod pobl yn teimlo’n rhwystredig gyda rheolau’r cyfyngiadau symud; fodd bynnag, er bod cyfyngiadau wedi’u llacio, mae gennym ran i’w chwarae o hyd.

“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith uniongyrchol ar y gymuned ehangach ac mae gorfod ymdrin â’r digwyddiadau hyn yn rhoi straen ychwanegol ar ein heddlu a’n partneriaid.

“Rydym yn annog y rheini sy’n ystyried mynd i leoliadau awyr agored poblogaidd fel SA1 i feddwl dwywaith am yr effaith ar eich cymuned, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.”

Y bwriad yw tynnu’r ffensys ar 26 Ebrill wrth i letygarwch awyr agored ailagor. Fod bynnag, rhoddir ystyriaeth i ailosod y ffensys os na fydd y sefyllfa’n gwella.

%d bloggers like this: