03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gostwng y terfyn cyflymder mewn 22 o leoliadau yn RCT

MAE’R Cyngor yn y broses o gyflwyno terfyn cyflymder is o 20mya mewn 22 o leoliadau cymunedol, gan gynnwys mewn mannau sy’n agos i ysgolion. Mae hyn er mwyn creu amgylchedd mwy diogel lle does dim llawer o le i gadw pellter cymdeithasol.

Cyhoeddwyd rhestr gynhwysfawr o’r holl strydoedd sy’n cael eu heffeithio ar wefan y Cyngor, yn www.rctcbc.gov.uk/traffig.

Sicrhawyd arian grant COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer dau gynllun arbrofol tebyg mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.  Bydd y cyntaf yn gweld parthau 20mya yn cael eu cyflwyno ar strydoedd o amgylch 16 ysgol.  Yn dilyn hysbyiad cyhoeddus, mae’r parthau’n cael eu cyflwyno fesul cam o 10 Mawrth, gan ddechrau ym mhob lleoliad pan fydd arwyddion yn cael eu codi.

Bydd yr ail gynllun yn cyflwyno’r un mesur mewn chwe chanol tref neu bentref, lle gwelwyd rhagor o gerdded a beicio yn ystod y pandemig.  Cyhoeddwyd hysbysiadau cyhoeddus ar gyfer y newidiadau yma ar 17 Mawrth, a bydd y parthau 20mya yn dod i rym fesul cam o 24 Mawrth.

Mae’r ddau gynllun yn cael eu gweithredu o dan orchymyn traffig arbrofol 18 mis, gyda’r bwriad o’u gwneud yn barhaol yn y dyfodol.  Mae’r Cyngor yn gweithio tuag at gwblhau’r arwyddion ar draws pob un o’r 22 lleoliad, a bydd yn croesawu adborth am y newidiadau yn y chwe mis cyntaf wedi iddyn nhw ddod i rym.

Meddai’rCynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: 

“Trwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid grant ar gael i awdurdodau lleol. Mae’r cyllid yma i helpu awdurdodau lleol wneud newidiadau pwysig i seilwaith priffyrdd o fewn cymunedau er mwyn hwyluso cadw pellter cymdeithasol a lleihau lledaeniad y feirws – yn enwedig mewn lleoliadau prysur a chyfyng.  

“Er enghraifft, mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid o’r blaen i newid palmentydd mewn arosfannau bysiau wedi’u targedu i greu rhagor o le i’r rhai sy’n aros i ddal bws.  Gwnaed y newidiadau mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Stryd Catrin ym Mhontypridd a Heol Pontypridd yn y Porth.  Cyhoeddodd y Cyngor hefyd ym mis Ionawr ei fod yn treialu technoleg ddi-gyffwrdd ar chwe croesfan i gerddwyr.

“Mae’r cyllid diweddaraf yn galluogi cyflwyno terfynau cyflymder yn ymyl ysgolion wedi’u targedu ac mewn canol trefi neu bentrefi – ardaloedd sydd â lle cyfyngedig ar gyfer cadw pellter cymdeithasol neu sydd wedi gweld cynnydd diweddar mewn cerdded neu feicio.  Mae hwn yn fater penodol y tu allan i rai ysgolion yn ystod amseroedd gollwng a chasglu, ac mae’r terfyn 20mya newydd yn anelu at wella diogelwch ar y ffyrdd bob bore a phrynhawn.”

 

%d bloggers like this: