03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grant Llywodraeth Cymru yn galluogi’r cyngor i ymchwilio mesurau cynaliadwy

MAE Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywiaeth o brosiectau fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni ei gynllun gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a helpu i ostwng allyriadau carbon. Mae’r grant, sy’n werth £626,000, yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i symud tuag at economi gylchol lle caiff gwastraff ei osgoi gydag eitemau’n parhau’n hyfyw cyhyd ag sydd modd. Fel mesur pwysig yn yr ymgyrch i atal newid hinsawdd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y cyllid yn helpu i ddatblygu llawer o gyfleoedd swydd newydd wrth symud at economi carbon isel yng Nghymru.

Bydd y grant hefyd yn rhoi cefnogaeth amserol i ganol trefi’r sir wrth i Lywodraeth Cymru geisio cefnogaeth i gynlluniau yn hyrwyddo cymunedau cydlynol drwy gynlluniau atgyweirio ac ailddefnyddio. Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd ar gyfer ymyriadau tebyg i hybiau cymunedol yn cynnig caffes atgyweirio – lle mae gwirfoddolwyr yn atgyweirio dyfeisiau trydanol a mecanyddol cartrefi, cyfrifiaduron, beiciau, dillad ac eitemau eraill i ostwng gwastraff, cynnal sgiliau atgyweirio a chryfhau strwythurau cymdeithasol – neu siopau dim gwastraff, sy’n osgoi pob deunydd pecyn diangen.

Bydd y cyllid yn sicrhau’r prosiectau dilynol yn Sir Fynwy:

Bydd y cyngor yn anelu i ddatblygu rhwydwaith Llyfrgell Pethau i sefydlu safleoedd lle gall pobl fenthyca eitemau maent eu hangen ond nad ydynt yn berchen arnynt, cyfrannu eitemau y maent yn berchen arnynt ond nad ydynt eu hangen, a man lle mae pobl yn cwrdd i rannu gwybodaeth a sgiliau. Caiff hyn ei sefydlu mewn partneriaeth gyda Benthyg Cymru, sefydliad a gaiff ei redeg gan sefydlwyr Llyfrgell Pethau cyntaf Cymru, i gefnogi cymunedau i sefydlu eu cyfleusterau benthyca eu hunain. Bydd Benthyg Cymru yn goruchwylio caffael eitemau a chynnal cofnodion.

Caiff hyb atgyweirio ac ailddefnyddio Cil-y-coed ei leoli yng nghanol y dref gan gynnal amrywiaeth o weithgareddau megis sied dynion, ailgylchu plastig, llyfrgell pethau a chaffe atgyweirio ac ailddefnyddio.

Mae Canolfan Bridges Trefynwy eisoes yn gartref i lawer o weithgareddau cymunedol a bydd ei brosiect Oergell Gymunedol yn datblygu’r safle ymhellach gydag adeilad integredig ar gyfer caffe atgyweirio ac ailddefnyddio a llyfrgell pethau.

Bydd Canolfan Gymunedol y Fenni yn manteisio ymhellach o ofod storio bwyd ar gyfer ei chegin gymunedol gan ailwampio’r ardal lle mae’r caffe atgyweirio ar hyn o bryd a lle bydd y llyfrgell pethau arfaethedig.

Bydd Monmouthshire Upcycle yng Nghas-gwent yn cynnal llyfrgell pethau, fydd hefyd yn cynnwys beiciau trydan y gellir eu benthyca.

Bydd ardaloedd storio a chyfleusterau ychwanegol yn y siopau ailddefnyddio yng nghanolfannau gwastraff cartrefi y cyngor yn Llan-ffwyst a Five Lanes (sy’n gwerthu eitemau domestig defnyddiol a defnyddiol a gafodd eu hachub o sgipiau neu eu rhoi). Defnyddir y rhain i brosesu pren, paent, eitemau trydanol, rhannau o feiciau ac eitemau eraill i’w hailgylchu yng nghaffes atgyweirio a siediau dynion y sir. Yn ychwanegol, bydd y cyllid grant yn cyfrannu at staff ychwanegol i weithredu’r siopau, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli a phrynu tair fan i gludo eitemau.

Yn ogystal â’i bartneriaeth gyda Benthyg Cymru, bydd y cyngor yn gweithio’n agos gyda chwmni budd cymunedol Repair Café Wales i sefydlu caffes atgyweirio newydd ar draws y sir, yn ogystal â datblygu’r rhai presennol yn y Fenni a Threfynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ailgylchu:

“Mae ein partneriaeth gyda Benthyg Cymru a Repair Café Wales dros y deuddeg mis nesaf yn argoeli bod yn gynllun cyffrous. Bydd yn ein llywio wrth symud y sir at economi gylchol lle gwnawn y gorau oll o’n hadnoddau ac osgoi gwastraff er budd ein cymunedau”.

Meddai Cerys Jones, cyd-sefydlydd Repair Café Wales: “Daethom i wybod gyntaf am y mudiad caffes atgyweirio ar ôl darllen am y cynllun cyntaf yn yr Iseldiroedd ddegawd yn ôl a phenderfynu sefydlu un yng Nghaerdydd. Mae’r digwyddiadau eu hunain yn syml iawn eto mae’r manteision i’r gymuned leol yn enfawr – gostwng gwastraff, cynyddu sgiliau, gwella iechyd a llesiant, lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd – mae’r rhestr yn faith! Ers sefydlu ein caffe atgyweirio cyntaf yn 2017, rydym nawr wedi helpu 39 o gymunedau eraill i wneud yr un peth yn eu hardaloedd lleol. Rydym mor falch fod cynlluniau atgyweirio ac ailddefnyddio i’r sir gyfan fel hwn yn Sir Fynwy yn cael eu cefnogi i sefydlu prosiectau sy’n cryfhau cymunedau ar draws Cymru.”

Yn ôl Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Bwrdd Caffe Atgyweirio Cymru:

“Rydym yn falch iawn i gymryd rhan yn y prosiect hwn i helpu ychwanegu at y ddau gaffe atgyweirio gwych sydd gennym eisoes yn Sir Fynwy. Mae ein twf fel sefydliad a’r cynnydd mewn cefnogaeth ar gyfer y prosiectau hyn yn adlewyrchu’r pryder cyhoeddus cynyddol am yr argyfwng hinsawdd ac yn arwydd cadarnhaol fod cymhellaint ymysg ein cymdeithas i ddod ynghyd a chymryd camau ymarferol tuag at ddatrysiad.”

Dywedodd Becky Harford, cyd-sefydlydd Benthyg Cymru: “Cefais y syniad am y Llyfrgell Pethau pan oeddwn newydd symud i dŷ newydd gyda gardd fawr ond yn methu fforddio prynu peiriant torri gwair. Doeddwn i ddim yn adnabod neb yn lleol i fenthyca un a doeddwn i ddim yn medru gyrru i fenthyca un gan gyfeillion ymhellach bant. Gwelais y syniad o lyfrgelloedd offer a phan sylweddolais nad oedd un yng Nghaerdydd, penderfynais sefydlu un fy hun. Mae manteision llyfrgelloedd pethau yn ddiddiwedd – rhoi cyfleoedd i rannu adnoddau gwerthfawr a chreu cysylltiadau gyda phobl yn eich cymuned.”

Ychwanegodd Ella Smilllie, cyd-sefydlydd Benthyg Cymru: “Bydd y prosiect yn arddangos ymrwymiad Cymru i’r economi gylchol, ac rydym yn hynod falch i weithio gyda Chyngor Sir Fynwy i wneud benthyca’n well na phrynu ar gyfer pobl leol.”

Mae’r cyngor wedi rhoi cyfle i breswylwyr fynegi barn ar lyfrgelloedd pethau a chaffes atgyweirio gyda holiadur byr a byddent yn croesawu eu sylwadau https://bit.ly/3vhBDBY

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Carl Touhig, Rheolwr Strategaeth Ailgylchu Sir Fynwy –  CarlTouhig@monmouthshire.gov.uk

%d bloggers like this: