04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grantiau i helpu busnesau bach gwledig ddefnyddio’r Gymraeg

MAE busnesau bach yn Sir Gaerfyrddin wledig yn cael cynnig cymorth i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Mae menter Iaith Gwaith Cyngor Sir Caerfyrddin, a ariennir gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, yn darparu grantiau i helpu busnesau i godi proffil y Gymraeg yn eu deunyddiau marchnata, brandio ac arwyddion.

Gall busnesau bach a sefydliadau cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn rhannau gwledig o’r sir, neu sy’n symud i’r ardaloedd hynny, wneud cais am y grant a fydd yn talu hyd at hanner y costau cymwys hyd at uchafswm o £3,000.

Mae angen cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd mis Mai 2022, ond mae’r cyllid ar gael ar sail y cyntaf i’r felin a chynghorir ceisiadau cynnar. Hefyd fedr e-bostio  RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau £2.94miliwn o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU i gefnogi amrywiaeth o brosiectau a fy

%d bloggers like this: