04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gronfa Cadernid Economaidd rhoi cefnogaeth hollbwysig i brif gyflenwr offer pobi y DU

MAE Cronfa Cadernid Economaidd bwrpasol Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth hanfodol i brif weithgynhyrchydd a chyflenwr offer pobi proffesiynol, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Derbyniodd Mono Equipment, o Abertawe, £108,000 o’r gronfa i helpu i gynnal swyddi yn y cwmni ac i’w warchod rhag effeithiau difrifol y coronafeirws.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau, yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru ac sy’n ategu’r cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU.  Hyd yn hyn, mae dros 12,500 o fusnesau wedi derbyn cymorth ariannol gwerth dros  £280 miliwn, ac mae’r gronfa wedi helpu i warchod dros 75,000 o swyddi yng Nghymru.

Mae Mono Equipment, sy’n cyflenwi cwmnïau amrywiol byd-eang megis Marks and Spencer, Sainsbury’s, Greggs a’r cwmni Americanaidd Dunkin’ Donuts, wedi derbyn cymorth allforio eang yn y gorffennol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ei farchnadoedd rhyngwladol newydd.  Gwelodd y busnes ostyngiad sylweddol mewn trosiant o ganlyniad i’r coronafeirws, a bu’r Gronfa Cadernid Economaidd yn hollbwysig wrth gynnal y cwmni drwy’r pandemig.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Mono Equipment, Andrew Jones:

“Rydyn ni yn Mono Equipment yn ddiolchgar am y cymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig Covid 19.  Mae wedi bod o gymorth mawr inni wrth ddatrys pethau yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Pan oedd y pandemig ar ei waethaf, bu gostyngiad o dros 60 y cant, ac er ein bod wedi gweld adferiad cyson o’r cyfnod gwaethaf, mae’r refeniw yn parhau i fod llawer is na’r lefel arferol.

“Gyda’r cymorth a’r gefnogaeth a gafwyd, rydyn ni wedi gallu cadw’r mwyafrif llethol o’n gweithlu.  Heb gymorth gan y llywodraeth, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.  Mae Mono bellach yn edrych ymlaen at weld y farchnad graidd yn y DU yn ad-ennill hyder, a’i farchnadoedd allforio sydd wrthi’n datblygu.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod economaidd heriol, ond drwy gydol yr argyfwng rydyn ni wedi bod yn glir bod angen i fusnesau o safon uchel, sy’n ffynnu, barhau i fod yn fusnesau o safon uchel, sy’n ffynnu pan fydd y pandemig drosodd.

“Mae Mono Equipment yn union y math yna o fusnes, a dwi’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi’r cymorth hanfodol yr oeddent ei angen, ar yr union adeg yr oeddent ei angen fwyaf, wnaeth yn ei dro eu galluogi i ddiogelu swyddi lleol.

“Cafodd ein Cronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn ei chynllunio’n arbennig i lenwi’r bylchau oedd ym mhecyn cymorth busnes Llywodraeth y DU.  O ganlyniad, o bob un o wledydd y DU, Cymru sydd â’r ganran uchaf o fusnesau sy’n gwneud cais am gymorth ar gyfer y coronafeirws.  Mae hyn yn brawf bod ein cymorth pwrpasol yn cyrraedd busnesau, o bob math a maint ledled Cymru.  Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i warchod swyddi a helpu busnesau i ffynnu wrth inni ddod allan o’r argyfwng hwn.”

%d bloggers like this: