03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gronfa Cadernid Economaidd rhoi nawdd angenrheidiol i gwmni o Wrecsam

MAE Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn rhoi help angenrheidiol i gyflogwr pwysig yn Wrecsam allu diogelu swyddi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates.

Mae cwmni F Bender Limited o Gresffordd wedi cael £149,000 o’r gronfa i’w helpu i amddiffyn ei weithlu o 150 o weithwyr rhag effeithiau pandemig y coronafeirws.

Mae’r ERF, sy’n rhan o becyn Llywodraeth Cymru gwerth £1.7bn i gefnogi busnesau, yn rhoi cymorth ariannol hanfodol i filoedd o gwmnïau ledled y wlad gan ategu’r help sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y DU.  Hyd yma, mae dros 12,500 o fusnesau wedi cael gwerth mwy na £280m o help ariannol drwyddi.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates: “Rydym wedi gweithio’n galed yng Nghymru i addasu’n grantiau cymaint ag y medrwn ers dechrau’r pandemig, er mwyn gallu rhoi cymorth ariannol yn gyflym i’r cwmnïau sydd ei angen fwyaf.

“Mae ein pecyn o gymorth yn gwneud mwy o lawer na’r hyn sydd ar gael yng ngweddill y DU ac rwy’n falch fod y Gronfa Cadernid Economaidd yn helpu miloedd o fusnesau i ddelio â’r materion sy’n hanfodol iddynt allu goroesi a diogelu swyddi.

Mae F Bender Limited sy’n cynhyrchu cwpanau papur ar gyfer y diwydiant lletygarwch ac eitemau eraill wedi defnyddio’r arian i roi hwb angenrheidiol i’w lif arian. Hefyd mae’r busnes yn gweithio gyda brandiau coffi a chwmnïau adnabyddus ar y stryd fawr ac yn buddsoddi rhyw £3m y flwyddyn yn y gadwyn gyflenwi leol.

Mae’r cwmni’n rhan o nifer o fentrau i wella effeithiau amgylcheddol ei gynnyrch, gan gynnwys datblygu cwpanau papur y gellir eu compostio a’u hailgylchu.  Mae’n cefnogi ac yn gweithio hefyd â Cadwch Gymru’n Daclus.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr F Bender Limited, Andy Cunliffe: “Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn hanfodol i’n hymdrechion i oroesi effeithiau’r Covid-19.

“Gan fod cymaint o’n busnes yn digwydd ar y stryd fawr, gwnaeth ein gwerthiant ddiflannu ym misoedd cynta’r pandemig. Mae’r grant wedi bod yn help i’n llif arian ac yn golygu ein bod wedi gallu talu cyflenwyr a chyflogau.

“Gyda’n marchnadoedd yn ailagor, rydym yn credu’n gryf bod nawdd Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i ddiogelu ein gweithlu yn Wrecsam.”

Dywedodd Ken Skates “fod F Bender Limited yn Wrecsam yn brawf bod ein hymdrechion i helpu amrywiaeth o fusnesau yn gweithio, felly rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi gallu rhoi’r cymorth hanfodol hwn i’r cwmni.

“Maen nhw’n gyflogwyr pwysig yn yr ardal a bydd ein grant yn hanfodol i sicrhau eu bod yn gallu parhau yn hynny o beth ar ôl y pandemig.”

%d bloggers like this: