03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Penglais i hunan-ynysu yn dilyn achos COVID-19

Gofynnwyd i Grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cadarnhau achos COVID-19 yn yr ysgol.

Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy’n teithio ar yr un bws â’r achos cadarnhaol a gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 10 diwrnod hefyd. Daw’r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Gyfun Penglais.

Rhaid i bob cyswllt a gadarnhawyd o’r achos hyn aros gartref am 10 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach. Bydd y disgyblion yn cael eu haddysgu o bell am y cyfnod yma.

Mae’r Ysgol wedi cysylltu â phob un o’r rhieni yma a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.

Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau ehangach, sef:

· tymheredd uchel

· peswch parhaus newydd

· colled neu newid i synnwyr arogli neu flas

Symptomau annwyd yr haf – gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (cyhyrau poenus); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol yn flaenorol
Yn ogystal, dylai rhieni sicrhau eu bod yn trefnu prawf COVID-19 os mae eu plentyn yn teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19.

 

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

 

Mae’r nifer o achosion COVID-19 wedi cynyddu’n sylweddol dros y diwrnodau diwethaf ac rydym yn annog pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol 2 fetr, gwisgo masg pan rydych dan do, golchi eich dwylo’n rheolaidd am 20 eiliad a sicrhau bod digon o awyr iach pan rydych o dan do. Bydd dilyn y rheolau hyn yn atal lledaeniad COVID-19 yng Ngheredigion.

 

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r mater hwn.

%d bloggers like this: