03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol

MAE un o gymdeithasau rhandiroedd mwyaf amrywiol ddiwylliannol Caerdydd yn bwriadu gwneud garddio’n hygyrch i’r anabl a dechreuwyr ar ôl sicrhau swm sylweddol o arian annisgwyl elusennol.

Mae Rhandiroedd Pafiliwn Pengam, oddi ar Ffordd Rover ym Mhengam, wedi bod yn safle i arddwyr brwd ers 1927 ac ar hyn o bryd mae tua 70 o aelodau yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch, gan gynnwys ffrwythau, llysiau a blodau.

Maent wedi treulio blynyddoedd yn trin y tir eu hunain, gyda chefnogaeth tîm gwasanaethau rhandiroedd Cyngor Caerdydd, ac yn gwneud defnydd da o’u cronfeydd cyfyngedig drwy ailgylchu deunyddiau i wneud siediau a thwneli.

Erbyn hyn, fodd bynnag, maent wedi derbyn rhodd fawr gan y cwmni cyflenwadau adeiladu Travis Perkins ar ffurf cynalydion rheilffordd a deunyddiau eraill i helpu i ddatblygu cornel wedi’i hadfer o’u safle a chreu lleiniau newydd sy’n addas ar gyfer garddwyr newydd ac anabl.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd llywydd cymdeithas rhandiroedd Pengam, Dennis Ramsey, fod y rhodd – gan Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins – wedi dod ar ôl iddo ef a’i aelodau weithio’n galed i glirio ardal hanner erw a oedd wedi’i gordyfu â mieri a choed.

“Roeddem am wneud yr hyn a allem yma i greu mwy o le.  Ar ôl i ni glirio’r tir, gwahoddwyd y cyngor i weld beth yr oeddem wedi’i wneud ac roeddent mor falch eu bod wedi ein cyflwyno ar gyfer y Gronfa Etifeddiaeth.

“Nawr, gyda chymorth y cyngor, rydym yn bwriadu creu tua 21 o ‘erddi cychwynnol’ bach i’r rhai sy’n newydd i randiroedd a nifer o welyau uchel a fydd yn cael eu haddasu’n arbennig ar gyfer defnyddwyr anabl.”

Dywedodd Tracey Woodberry, ysgrifennydd y gymdeithas, ei bod yn gobeithio y byddai’r gwaith o drawsnewid y plot yn cael ei gwblhau o fewn dau neu dri miss:

“Rydyn ni’n gwybod bod gennym lawer o waith i’w wneud o hyd ond rydym yn hyderus y byddwn yn gwneud popeth cyn yr haf.

“Mae gennym fwy o ddeunyddiau wedi’u rhoi i ddod o hyd, gan gynnwys uwchbridd, a llwch cerrig i greu mynediad da i’r lleiniau.”

Mae’r gymdeithas yn ymfalchïo yn ei chynwysoldeb ac mae ganddi aelodau o bron i 20 o wahanol gymunedau ethnig yng Nghaerdydd, gan gynnwys garddwyr o Bortiwgal, Twrci, Yemen, Irac, Nepal a Bangladesh.  Mae ganddi hefyd gyfran uchel o aelodau benywaidd.

“Rydym wedi ehangu llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai Dennis, “ac rydym bob amser wedi ceisio gwneud y defnydd gorau o ba adnoddau y gallwn ddod o hyd iddynt.  Rydyn ni bob amser yn edrych ar y cyfryngau cymdeithasol am fargeinion ac wedi dod yn arbenigwr ar droi hen fframiau trampolîn yn dwneli, er enghraifft.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei fod wedi derbyn nifer o geisiadau gan grwpiau rhandiroedd ar draws y ddinas am gyfran o Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins ond bod cynlluniau Pafiliwn Pengam wedi creu argraff arbennig arnynt.
Os hoffech ddod yn ddeiliad rhandir yng Nghaerdydd, cliciwch ar y wefan hon – https://www.outdoorcardiff.com/cy/cymrwch-ran/rhandiroedd/

%d bloggers like this: