04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grwpiau cymunedol yn cynnal prosiectau ymgysylltu arloesol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

MAE un ar ddeg grŵp cymunedol ar draws y wlad wedi cael cyllid gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i gefnogi ei sgwrs genedlaethol ar ddyfodol y genedl.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnwys dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol am y ffordd mae ein gwlad yn cael ei rhedeg. Mae’n ystyried y strwythurau cyfansoddiadol presennol ac yn datblygu ystod lawn o opsiynau i gryfhau dyfodol democrataidd Cymru.

Bydd y Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned yn rhoi £5,000 i sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio yng nghanol cymunedau Cymru i gynnal prosiectau ymgysylltu. Bydd y prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan yr un ar ddeg grŵp llwyddiannus yn sicrhau bod barn cymunedau amrywiol Cymru yn cael ei chlywed a’i hadlewyrchu yn adroddiad interim y Comisiwn sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Cafodd y Comisiwn gyfanswm o 42 o geisiadau ar gyfer y Gronfa Ymgysylltu Cymunedol.

Dyma’r grwpiau llwyddiannus a’r ardaloedd lle maen nhw’n gweithredu:

Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (Cymru gyfan)

ArtsFactory (Rhondda Cynon Taf)

Autistic Minds (Caerffili a’r de-ddwyrain)

Menter Effaith Gymunedol CIC (Castell-nedd Port Talbot)

Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru (Cymru gyfan)

Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru (y gogledd)

Cyngor Hil Cymru (Abertawe)

MAD Abertawe (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot)

Tai Pawb (Caerdydd)

Lleisiau o Ofal Cymru (Cymru gyfan)

Bydd pob grŵp yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau ymgysylltu i weithio gyda’u cymunedau, gan gynnwys popeth o weithdai creadigol arloesol i grwpiau ffocws ac arolygon digidol, wedi’u darparu mewn sawl iaith a gyda fformatau hygyrch lle bo angen.

 

%d bloggers like this: