03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwahodd cymunedau Cymru i adeiladu ysgolion newydd arloesol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod awdurdodau lleol Cymru wedi cael eu gwahodd i wneud cais i adeiladu un o ddwy ysgol newydd wrth iddi lansio Her Ysgolion Cynaliadwy.

Bydd disgwyl i’r prosiectau fod yn arloesol a dangos eu bod am gydweithio â chymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion a theuluoedd, wrth gynllunio, gweithredu a rheoli’r ysgolion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £15m yr un ar gyfer yr ysgolion, neu £30m i gyd, i dalu costau’r prosiectau.

Gwahoddwyd ceisiadau gan bob un o 22 awdurdod lleol Cymru. Caiff un ysgol ei hadeiladu yn y Gogledd ac un arall yn y De.

Disgwylir i ddyluniad yr ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol i’r amgylchedd lleol a’r dirwedd gyfagos, gan gynnwys annog pobl i gerdded a beicio. Caiff deunyddiau naturiol lleol eu defnyddio lle bo modd.

Bydd angen i’r cynlluniau fodloni ystod o feini prawf amgylcheddol, megis defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu neu ddeunyddiau naturiol, darparu lefelau uchel o olau dydd naturiol, a sicrhau defnydd isel o ynni a dŵr.

Ers mis Ionawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mandad bod yn rhaid dilyn egwyddorion di-garbon wrth godi unrhyw adeilad ysgol a choleg newydd ac wrth wneud unrhyw waith adnewyddu sylweddol.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae ysgolion yn gwbl ganolog i’n cymunedau. Mae’n rhaid inni fod yn uchelgeisiol yn y ffordd rydyn ni’n mynd ati i adeiladu ysgolion newydd, gan sicrhau bod eu dyluniad yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddysgwyr a staff, i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd naturiol.

“Bydd y prosiectau hyn yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer pob ysgol i’r dyfodol, fel y byddan nhw’n gydnaws â’r ardal o’u cwmpas, gan gryfhau ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a diogelu’r amgylchedd.

“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r prosiectau hyn yn gyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a gwireddu nod y Cwricwlwm o ddatblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus.”

Caiff y prosiectau llwyddiannus eu cyhoeddi ddechrau 2023.

%d bloggers like this: