03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith adfer wedi dechrau ar Brosiect Mawndiroedd Coll De Cymru

AR ôl gwneud gwaith mawr dros y gaeaf sydd newydd fynd heibio, mae Prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn falch o gyhoeddi fod 23 hectar o gynefin corsiog wedi cael ei adfer yn ardal y prosiect erbyn hyn.

Mae gan dirwedd yr ucheldir rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf gyfoeth o nodweddion naturiol, a all, o’i reoli’n ofalus, gael effaith enfawr ar newid hinsawdd a achosir gan ddyn ac ar yr un pryd achosi adferiad ar ôl y colledion a fu mewn bioamrywiaeth, drwy warchod y cynefinoedd hyn sy’n brin ledled y byd.

Mae rheoli mawndir yn hanfodol i ddull y byd o gyflawni’i nodau carbon. Mawndir yw rhai o’r ecosystemau mwyaf dwys o ran carbon ar y Ddaear, gan storio rhyw 25% o’r holl garbon mewn pridd, er mai dim ond dros 3% o arwyneb tir y byd y mae’n gorchuddio.

Mae mawndir mewn cyflwr da yn sinc carbon – sy’n cadw llawer iawn, iawn o’r carbon a ffurfiwyd dros filoedd o flynyddoedd dan glo – a gall leihau’r perygl o lifogydd, gwella ansawdd dŵr, cefnogi bioamrywiaeth a chael effaith net o oeri’r hinsawdd.

Ond pan niweidir mawndir, mae’n ollyngwr carbon o bwys, felly mae’n hanfodol asesu’r mawndiroedd sydd gennym i farnu sut orau i’w hadfer. Gwneir hyn fel arfer drwy gyfrwng gwaith adfer ac ail-hydradu – proses o ail-wlychu mawndiroedd a fydd yn eu galluogi i ddychwelyd i gyflwr sy’n naturiol i bob pwrpas.

Ar ôl cynnal arolygon eang o ardaloedd a fu gynt dan goedwigoedd yn ystâd fforestydd Llywodraeth Cymru, clustnodwyd tri safle a’u cyflwyno gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer eu hadfer.

Mae coedwigaeth fasnachol bellach yn tra-arglwyddiaethu dros y dirwedd hon ar ôl i lawer o goed gael eu plannu yma yn y 1950au, yn unol â galwadau am bren a dyfwyd yn y DU – ar ôl yr Ail Ryfel Byd. I gyflawni hyn, draeniwyd ardaloedd mawr o fawndir gan adael y cynefinoedd hyn yn agored ac ar eu gwaethaf. Bydd y mawn sych hwn naill ai’n cael ei golli i’r atmosffer neu’n cael ei olchi i lawr gyda nentydd ac afonydd, ac yn ei sgil collir llawer iawn o garbon organig a ffurfiodd dros filoedd ar filoedd o flynyddoedd.

Defnyddir y broses o ‘ail-wlychu’ i adfer y systemau cors hyn. Ar ôl ei ddychwel i stad sydd bron yn naturiol, bydd carbon yn cael ei gloi ynddo a gall y rhywogaeth ryfeddol o fwsogl Sphagnum neu figwyn ledu unwaith eto a pharhau i greu’r gwlyptiroedd unigryw hyn.

Ar gyfer y safle prosiect cyntaf i’w adfer – Ardal Adfer Cynefin Castell nos – clowyd argaeau mawn bach i mewn i sianelau draenio oedd yn bodoli eisoes. Mae hyn eisoes yn dangos arwyddion ei fod yn atal dŵr ac yn codi’r lefel trwythiad. Mae traws dracio – ble bydd peiriant cloddio’n gyrru dros y mawndir – hefyd yn dechneg a ddefnyddir yma, gyda’r nod o wastatáu’r dirwedd yn gyffredinol er mwyn lleihau draeniad a chreu amodau mwy ffafriol i fwsogl.Er mwyn penderfynu ar ganlyniadau’r gwaith, bydd ecolegwyr prosiect, Prifysgol Abertawe a gwirfoddolwyr yn monitro’r safle hwn. Ar ôl i ddata gael ei gasglu a’i ddadansoddi, bydd yn addysgu arfer dda ar gyfer gwaith mawndiroedd i’r dyfodol – yng Nghymru a thu hwnt.

Yn ôl Rhys Jones, Arweinydd Tîm Rheoli Tir Cadwraeth o Gyfoeth Naturiol Cymru:

“Gyda’r adferiad mawndir hwn ar y fath raddfa eang, bydd ardal y prosiect yn parhau i ddarparu manteision am genedlaethau i ddod.”

Ariennir y gwaith hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu mewn partneriaeth rhwng Cynghorau Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe a Coed Lleol.

%d bloggers like this: