BYDD Cynllun Amddiffyn Arfordirol Dwyrain y Rhyl, a ariannwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn amddiffyn 1,650 o eiddo yn Nwyrain y Rhyl rhag llifogydd arfordirol yn gorffen gynt na’r disgwyl
Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2020 ac roeddent i fod i orffen ym mis Rhagfyr 2022, fodd bynnag, mae’r cynllun wedi’i gwblhau’n gynnar.
Bydd gosod 128,000 tunnell o amddiffynfeydd meini o flaen yr amddiffynfeydd morol presennol yn Nwyrain y Rhyl a’r 600 metr o forglawdd amddiffynnol a phromenâd sydd newydd eu hychwanegu yn amddiffyn yr ardal rhag stormydd presennol ac effaith newid hinsawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor:
“Rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i gwblhau’r gwaith hwn cyn gynted ag sy’n bosibl fel bod ein cymunedau’n cael eu hamddiffyn rhag unrhyw risg posibl o lifogydd.”
“Rydym yn hynod o falch bod y gwaith i ddiogelu cannoedd o breswylwyr a busnesau yn yr ardal rhag stormydd presennol a’r cynnydd yn y dyfodol o ran lefelau’r môr yn yr ardal wedi’i gwblhau ddeg mis yn gynnar. Mae hefyd yn braf nodi bod y prosiect wedi’i ddarparu ymhell o fewn y gyllideb.”
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o lwyddiant y cynllun.”
Y prif gontractwyr, Balfour Beatty, wnaeth mwyafrif y gwaith.
Roedd manteision cymunedol o’r cynllun yn cynnwys gât mynediad i’r traeth yn Old Golf Road i’w ddefnyddio ar benwythnosau, gwaith adnewyddu yn Splash Point a chyfrannu Grwynau i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ar gyfer eu hardal goffa ac i Gyfeillion y Cob ar gyfer safle Glan Morfa.
Roedd manteision eraill yn cynnwys defnyddio cadwyn gyflenwi Gogledd Cymru ar gyfer danfon meini, sesiwn fentora dros y we gyda Sir Ddinbych yn Gweithio i helpu’r rhai sy’n chwilio am waith yn y diwydiant adeiladu a chyfraniadau i Fanc Bwyd Sussex Street.
Dywedodd Eddie Lundon, Cyfarwyddwr Rhanbarth Balfour Beatty:
“Trwy fframwaith Scape, rydym yn falch o fod wedi cwblhau’r cynllun hanfodol hwn yn ddiogel a llwyddiannus, a bydd yn amddiffyn nifer o gartrefi a busnesau yn Nwyrain y Rhyl.”
“Gan ddefnyddio ein profiad arfordirol helaeth, roeddem yn gallu cwblhau’r rhaglen yn gynnar, gan ddefnyddio cadwyn gyflenwi leol wrth wneud cyfraniad sylweddol a chynaliadwy i’r gymuned leol.”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Mae’r llifogydd yng nghartrefi a busnesau’r Rhyl yn 2013 yn dal i fod yn ffres ym meddwl pobl a gyda newid hinsawdd, rydym yn gwybod bod digwyddiadau o’r fath yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Felly rwy’n falch o ddarparu cyllid i Gyngor Sir Ddinbych o’n Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol ar gyfer y cynllun sylweddol hwn i helpu i ddiogelu cartrefi, busnesau ac isadeiledd rhag effaith llifogydd.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m