10/13/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith ar Ysgol Gymraeg Tan-y-lan Abertawe mynd yn i flaen

CYRHAEDDWYD carreg filltir bwysig iawn wrth adeiladu cartref newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg ffyniannus yn Abertawe.

Mae’r ffram ddur wedi’i chwblhau ar y datblygiad gwerth £9.5 miliwn yn Ysgol Gymraeg Tan-y-lan.

Mae’r contractwr, Kier, wedi gwneud cynnydd da ar yr ysgol ers symud i’r safle yr haf diwethaf wrth weithio o fewn mesurau diogelwch Coronafeirws llym.

Fel arfer, gwahoddir disgyblion i seremoni gosod carreg gopa i nodi achlysur o’r fath ond oherwydd y cyfyngiadau cyfredol nid yw hyn wedi bod yn bosib.

Ariennir y datblygiad ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru o dan raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif ac mae’n rhan o fuddsoddiad gwerth £150m mewn adeiladau a chyfleusterau ysgolion sy’n cael ei wneud yn Abertawe ar hyn o bryd.

Meddai’r Cyng. Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, “Hoffwn ddiolch i Kier a’u llongyfarch ar eu cynnydd. gan fod y ffram yn ei lle, bydd gan bobl well syniad o’r hyn y gall disgyblion, staff a’r gymuned ehangach edrych ymlaen ato pan fydd yr ysgol yn agor y flwyddyn nesaf.

“Mae’n anffodus ond yn angenrheidiol nad yw disgyblion wedi gallu gwneud yr ymweliadau y byddent fel arfer yn eu gwneud wrth adeiladu prosiect o’r fath, ond mae’r tîm o  Cyngor Abertawe a  Kier wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r ysgol i ddiweddaru pawb o ran y cynnydd.

“Rwy’n obeithiol, wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, y daw pethau ychydig yn haws gyda llai o chyfyngiadau a ac y bydd disgyblion yn gallu gweld drostynt eu hunain yr hyn sy’n eu disgwyl.”

Adeiledir yr ysgol ar dir ger Hill View Crescent yn y Clâs ac unwaith y caiff ei chwblhau bydd ganddi 290 o leoedd ychwanegol a fydd yn helpu i ateb galw cynyddol am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.

Meddai Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Kier Regional Building Western & Wales, “Rydym wrth ein boddau i fod wedi cwblhau’r ffrâm ddur yn Ysgol Gynradd Gymraeg newydd Tan-y-lan.

“Mae hon yn garreg filltir bwysig wrth i ni gydweithio â Chyngor Abertawe, staff addysgu a’n partneriaid cadwyni cyflenwi lleol i gyflwyno adeilad newydd â chyfleusterau blaenllaw i gymuned Abertawe.”

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar bedwar prosiect ysgol mawr ar hyn o bryd yn Abertawe, sef Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwal, yr Uned Cyfeirio Disgyblion newydd (Maes Derw) yn y Cocyd, Ysgol Gyfun Gŵyr ac YGG Tirdeunaw.

%d bloggers like this: