04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith cadwraeth hanfodol i gadw Castell Ystumllwynarth

MAE contractwyr ar y safle ar hyn o bryd yn gwneud gwaith cadwraeth hanfodol i helpu i ddiogelu un o dirnodau mwyaf hanesyddol Abertawe.

Mae arbenigwyr yn cael gwared ar lystyfiant ymledol ac yn trwsio ardaloedd lle mae’r gwaith cerrig yn ansefydlog yng Nghastell Ystumllwynarth i’w baratoi ar gyfer ailagor i’r cyhoedd yr haf hwn.

Cyngor Abertawe sy’n berchen ar yr heneb restredig Gradd 1 Normanaidd ac fe’i cynhelir bob dydd gan y grŵp gwirfoddol Cyfeillion Castell Ystumllwynarth. Fe’i cefnogir gan Gydlynydd Datblygiad Castell y cyngor.

Gwnaeth y grŵp Cyfeillion gais llwyddiannus ar gyfer cyllid rhannol o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru i helpu i dalu am y gwaith ac i baratoi ar gyfer mesurau cadw pellter cymdeithasol pan fydd ymwelwyr yn gallu dod i’r castell eto.

Rhan hynaf y castell presennol yw tŵr y de, a adeiladwyd ym 1107, ond bydd llawer o’r gwaith presennol yn canolbwyntio ar gapel Alina, a ddaeth yn hygyrch i’r cyhoedd am y tro cyntaf yn dilyn buddsoddiad o filiynau o bunnoedd 10 mlynedd yn ôl.

Bwriad y prosiect presennol yw arafu dirywiad y paentiadau 14eg ganrif yn y capel, trwy dynnu ac ailosod haenen o laswellt ar ben waliau’r capel.

Mae’r haenen o laswellt yn ymddwyn fel blanced thermol sy’n amddiffyn y waliau trwy atal dŵr a rhew rhag dod i mewn, gan y gall hyn ddifrodi’r morter.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:

“Er bod y castell ar gau ar hyn o bryd, mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni i amddiffyn a chadw’r tirnod pwysig hwn.

“Mae’r grŵp Cyfeillion, sy’n gwneud gwaith gwych er mwyn dod â’r heneb ganoloesol hon yn fyw ar gyfer ymwelwyr, wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ac rwy’n falch fod y cyngor wedi cyfrannu er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwaith hwn, sy’n hanfodol er mwyn diogelu’r castell.”

Meddai Erika Kluge, Cydlynydd Datblygu’r Castell:

“Wrth gynnal henebion pwysig Gradd 1, mae bob tro’n anodd cael cydbwysedd rhwng cadwraeth a gweithredu’r lleoliad fel atyniad ymarferol ar gyfer ymwelwyr ar yr un pryd.

“Mae’r grant wedi bod yn hanfodol yn ystod cyfnod mor rhyfedd ac anrhagweladwy oherwydd ei fod wedi’n galluogi i orffen yr ail gam o waith ar y capel yn ogystal â gwneud gwaith atgyweirio sydd wedi gwella diogelwch yn y castell gan ei fod wedi bod yn wag dros y misoedd diwethaf. Mae hefyd wedi’n galluogi i weithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol wrth i ni baratoi ein gwirfoddolwyr ar gyfer y dyddiad pan fyddwn yn gallu ailagor.”

Dywedodd Paul Griffin, Cadeirydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth:

“Mae’r prosiect cadwraeth hwn yn hanfodol ar gyfer cadw’r heneb hanesyddol hon. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr eto pan fydd y gwaith wedi dod i ben.”

Bwriedir ailagor y castell i’r cyhoedd pan fydd y prosiect gwerth £155,000 wedi dod i ben ac yn unol ag unrhyw gyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru ar y pryd.”

 

%d bloggers like this: