03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith draenio cynaliadwy arloesol yn Stryd y Felin Pontypridd

MAE gwaith lliniaru llifogydd wedi cychwyn yn Stryd y Felin ym Mhontypridd yr wythnos hon, i osod nodweddion gwyrdd fel pyllau coed a gerddi glaw i fynd i’r afael â dŵr wyneb mewn ffordd gynaliadwy – gan wella estheteg a bioamrywiaeth yr ardal ar yr un pryd.

Nod y cynllun, sy’n cael ei ariannu’n llwyr gan Lywodraeth Cymru, yw mynd i’r afael â materion dŵr wyneb yn lleol yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae pyllau coed a gerddi glaw yn cynnig math addasol o liniaru llifogydd sy’n gydnerth ar gyfer y dyfodol ac yn ystyried effeithiau newid hinsawdd.

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ddydd Llun, 22 Chwefror, ac yn dilyn gwaith ymchwil cychwynnol i’r ddaear a gafodd ei gynnal yn ystod mis Medi 2020.

Mae’r Cyngor wedi penodi Horan Construction yn gontractwr ar gyfer rhoi’r cynllun yma ar waith, a fydd yn para hyd at 4 wythnos. Fydd dim effaith ar unrhyw lwybrau cerdded na mynedfeydd yn yr ardal yma o ganol y dref.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth:

 “Bydd y gwaith yma yng Nghanol Tref Pontypridd yn darparu dull arloesol o liniaru llifogydd, er mwyn mynd i’r afael â materion dŵr wyneb sy’n casglu yn Stryd y Felin yn ystod cyfnodau o law trwm. Mantais ychwanegol o’r cynllun yw’r cyfle i wella delwedd y stryd trwy gyflwyno gwyrddni, a bydd ymwelwyr â chanol y dref yn dechrau gweld y gwelliannau hyn dros yr wythnosau nesaf.

“Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i gyflawni’r gwaith lliniaru llifogydd wedi’i dargedu mewn cymunedau. Yn 2021, mae gwaith wedi cychwyn mewn nifer o leoliadau gan gynnwys Stryd Hyfryd ym Mhentre, Teras Granville yn Aberpennar, ar yr A4059 o Drecynon i Hirwaun, a dau gam o waith yng Nghwm-bach. Cafodd gwaith i gryfhau cwlfert ei gwblhau hefyd yn Rhydfelen yn ystod yr wythnosau diwethaf, tra bod cynlluniau mawr yn parhau yn Lôn y Parc yn Nhrecynon ac yn Heol Pentre.

“Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r gwaith yma yn Stryd y Felin yn ei gyfanrwydd ac mae hyn wedi’i groesawu gan y Cyngor. Bydd y gwaith yn para tua mis a does dim disgwyl iddo achosi aflonyddwch, gan nad oes angen i’n contractwr penodedig gau unrhyw droedffyrdd na ffyrdd.”

%d bloggers like this: