03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau cymunedol newydd £2.1m Cosy Corner Porthcawl

MAE disgwyl i’r gwaith ddechrau ar gyfleusterau cymunedol newydd Cosy Corner ym Mhorthcawl yr haf hwn yn dilyn buddsoddiad o £2.1m.

Mae’r prosiect wedi ei gynllunio i gyfrannu ar raglen adfywio ehangach Porthcawl, drwy wella’r economi leol ar gyfer y gymuned a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal. Mae’r prosiect ehangach yn cynnwys adfywio a datblygu marina newydd, amddiffynfeydd môr newydd, Adeilad Jennings a adferwyd yn ddiweddar, gwelliannau sydd i ddod i forglawdd y dwyrain a mwy.

Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys adeilad un llawr o gladin gwydr a charreg sy’n ymgorffori eiddo addas ar gyfer manwerthu a mentrau newydd, lle ar gyfer defnydd cymunedol, lle ar gyfer gwaith swyddfa Marina Porthcawl, cyfleuster newid cwbl hygyrch a thoiledau cyhoeddus.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Yn dilyn ymgynghoriad Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl, cadarnhawyd hefyd, yn ychwanegol i’r datblygiad newydd, fod awydd cryf gan drigolion i gael cryn dipyn o le agored wedi ei leoli o amgylch Llyn Halen, Canol y Dref, Marina a safle’r Promenâd Dwyreiniol i ddarparu lleoedd i bobl gyfarfod, ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau y gellir eu cefnogi â chaffis, hamdden, a chyfleusterau cymunedol.

Dywedodd Charles Smith Aelod Cabinet drops Addysg ac Adfywio:

“Mae’r datblygiad hwn yn ymwneud yn llwyr â darparu adeilad hardd a chynaliadwy a fydd yn gaffaeliad gwirioneddol i’r gymuned leol ac a fydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i ymwelwyr.

Ar yr un pryd, mae’r datblygiad yn ymwneud ag adlewyrchu cymeriad morwrol y safle a’r amgylchedd arfordirol o’i gwmpas.:

Yn y gorffennol, mae’r cyngor wedi defnyddio arian o’r Rhaglen Cyrchfan Denu Twristiaeth i ddarparu’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr gwerth £1.5m yn Rest Bay, adnewyddu’r adeilad ciosg ym Marina Porthcawl, a lansio gwefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr (External link – Opens in a new tab or window) yn llwyddiannus, sy’n cynnwys adran am Borthcawl i arddangos y fwrdeistref sirol i breswylwyr ac ymwelwyr.

%d bloggers like this: