03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith i ddechrau ar safle newydd gofal plant a Dechrau’n Deg yn Aberhonddu

BYDD gwaith yn dechrau ar yr adeilad modiwlar newydd sydd i’w adeiladu ar safle Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn Aberhonddu.

Derbyniwyd grant cyfalaf Dechrau’n Deg o £820,000 gan Lywodraeth Cymru, a bydd yr adeilad yn creu darpariaeth Cyfnod Sylfaen a gofal plant Dechrau’n Deg ynghyd â swyddfeydd aml-asiantaeth i weithwyr proffesiynol i helpu teuluoedd.

Yn dilyn proses dendro, dyfarnwyd y contract i R G Stones Modular Buildings, a bydd y gwaith yn dechrau ar y safle fis nesaf.

Bydd yr adeilad newydd a’r lle awyr agored yn cynnig gofal plant Dechrau’n Deg o ansawdd uchel ac am ddim i blant dwy flwydd oed ynghyd â lle ar gyfer grwpiau rhianta a hyfforddiant.  Hefyd bydd yna ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen a Gofal Plant i blant 3 a 4 oed.

Bydd yna swyddfa aml-asiantaeth fechan ac ystafell gyswllt yn yr adeilad lle bydd gweithwyr proffesiynol megis Ymwelwyr Iechyd a Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gallu cwrdd â theuluoedd.

Bydd teuluoedd cymwys Dechrau’n Deg yn gallu defnyddio’r ddarpariaeth o dymor yr haf.  Rhoddwyd y contract i wasanaeth cyn-ysgol y Priordy i gynnig y ddarpariaeth Dechrau’n Deg o 26 Ebrill eleni.  Y gobaith yw y bydd y safle’n agor ar 26 Ebrill 2022 mewn da bryd ar gyfer dechrau tymor yr haf.

Ar hyn o bryd mae Dechrau’n Deg yn Aberhonddu yn gweithio o Gylch Meithrin Aberhonddu ond bydd yn symud i’r adeilad newydd pwrpasol yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy cyn gynted ag y bydd yr adeilad modiwlar yn barod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd Rachel Powell:

“Rwy’n falch iawn bod y gwaith adeiladu’n dechrau o fewn yr wythnosau nesaf.  Bydd modd bwrw ati’n gyflym nawr i drefnu gofal plant Dechrau’n Deg ychwanegol a’r feithrinfa Cyfnod Sylfaen.

“Mae’r safle hwn yn fan canolog o fewn y gymuned ac yn gyfle gwych i gael gwasanaethau mewn un lle.  Bydd yn cynnig gofal plant ynghyd â swyddfeydd a lle cymunedol.  Bydd teuluoedd Aberhonddu’n gallu elwa o ddull cydlynol ac integredig o dderbyn gwasanaethau cymorth cynnar.”

Meddai y Cynghorydd Matthew Dorrance, Cynghorydd lleol ar gyfer Ward Sant Ioan a Chadeirydd Ymddiriedolwyr Cyn-Oed Ysgol Priordy:

“Rydym yn dod â gwasanaethau Dechrau’n Deg yn agosach i adref i deuluoedd lleol, sy’n newyddion da i’n cymuned ni.  Bydd y ganolfan newydd sbon yn daith pram fer iawn i’r teuluoedd byddwn yn eu cefnogi.”

Sicrhawyd arian cyfalaf Dechrau’n Deg ychwanegol a nawdd gan Gyngor Tref Aberhonddu i greu maes chwarae newydd ar gae Pendre ger yr Ysgol.  Bydd arian Dechrau’n Deg yn cael ei ddefnyddio i adeiladau maes chwarae i blant 0 – 4 oed a bydd arian Cyngor y Dref yn cael ei ddefnyddio i brynu offer chwarae i blant dros 5 oed.  Rhoddwyd y contract i Dragon Play & Sports Ltd i wneud y gwaith a fydd yn cael ei wneud derbyn diwedd mis Mawrth eleni.

Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn ar gyfer teuluoedd lleol wrth i’r waith mynd yn ei flaen a sut y gallant fanteisio ar y gofal plant hwn.  Gall deuluoedd ddilyn @Powys Flying Start/Dechrau’n Deg Powys ar Facebook i gael y diweddaraf.

%d bloggers like this: