04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith i glirio llygredd olew o amgylch Afon Ogwr

MAE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymateb Arllwysiadau Cymru wedi bod yn gweithio i glirio llygredd olew o amgylch ardal Ystâd Ddiwydiannol Bracla, sydd wedi effeithio ar Nant Morfa ac Afon Ogwr.

Defnyddiwyd padiau a trawstiau amsugno i amsugno’r olew ac mae tanceri wedi cael eu defnyddio i sugno’r olew mewn gwahanol leoliadau. Mae Ymateb Arllwysiadau Cymru yn parhau i fonitro’r trawstiau a’r padiau, gan eu newid pan fyddant yn llawn.

Mae CNC yn gweithio i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd drwy wirio tyllau archwilio yn yr ardal gyda chymorth Dŵr Cymru. Mae CNC hefyd wedi bod yn brysur yn cynnal arolygon draenio ac yn gwirio man storio olew gerllaw.

Ni ddylid arllwys olew a hylifau llygredig eraill fel paent i lawr draeniau, gan fod y rhain yn aml yn cyrraedd afonydd a gall gael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt.

Gall pobl roi gwybod i CNC am achosion o lygredd ar unrhyw adeg drwy ffonio 03000 653000.

%d bloggers like this: