03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith yn agosáu i gwblhau gwelliannau £900,000 i Neuadd Dwyfor

WEDI cyfnod o fod ar gau oherwydd prosiect adnewyddu, mae’r datblygiadau cyffrous yn Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli yn agos iawn i’w cwblhau.

Mae llawer yn ardal Llŷn wedi gweld eisiau’r llyfrgell, theatr a’r sinema yn Neuadd Dwyfor, a mae Cyngor Gwynedd sy’n berchen yr adeilad, yn gobeithio bydd y trigolion lleol yn falch o weld y newidiadau pan fydd yr adeilad yn ail-agor yn fuan.

Diolch i arian cyfalaf sylweddol gan Gyngor Gwynedd a grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru mae gwelliannau sylweddol wedi eu cyflwyno, yn cynnwys:

ail-ddyluniad llwyr o’r gofod llyfrgell a silffoedd newydd;

toiled hygyrch ar y llawr gwaelod;

uwchraddio’r seddi yn y balconi a’r awditoriwm;

gwella’r cyntedd i fod yn ofod croesawus gyda llefydd eistedd a bar coffi; a hefyd

ystafelloedd cyfarfod newydd a gofod aml-bwrpas i helpu pobl allu gweithio yn Neuadd Dwyfor yn hytrach na gorfod mynd fewn i swyddfa.

Gyda’r gwelliannau bron â’u cwblhau, y bwriad yw ail-agor a chroesawu cwsmeriaid yn ôl i’r Llyfrgell ar Ddydd Llun, 14 Chwefror, gyda’r Theatr a’r Sinema yn cynnig rhaglen adloniant yn yr wythnosau dilynol. Mae’r gwaith yn yr ardal fynedfa yn agosáu at orffen, gyda dyluniad logo newydd ar gyfer y Neuadd wedi’i gwblhau gan gwmni Gringo o Benygroes, wedi’i osod gan Sarah Wray o Bwllheli, yn addurno’r drysau a’r wal.

Dywedodd Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Thomas:

“Rydan ni’n gwybod fod pobl wedi aros yn amyneddgar ar gyfer ail-agor Neuadd Dwyfor ar ei newydd-wedd, ac rydan ni’n falch fod y rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i gwblhau.

“I ddechrau, mi fydd y llyfrgell a’r ardal cyntedd newydd yn Neuadd Dwyfor yn agor, gyda gwaith manion i orffen yn y theatr a’r sinema.

“Mi fydd y llyfrgell ar ei newydd-wedd yn cynnig yr un ystod o wasanaeth yn y llyfrgell, gan gynnwys benthyca pob math o lyfrau, defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus a wi-fi, a bydd gennym hefyd adran blant newydd sbon a fydd yn ofod delfrydol ar gyfer amseroedd stori a sesiynau rhigwm a chân i fabanod. Byddwn yn cyhoeddi manylion am ein hamseroedd stori ar ein tudalennau Facebook a Twitter, ynghyd a sut i gofrestru.

“Yn ogystal, mi fydd yna wefan newydd Neuadd Dwyfor ar gael cyn hir, i gyd-fynd gyda’r rhaglen amrywiol a diddorol, a chyfle i bawb mwynhau diod a sioeau yn lolfeydd newydd braf.”

Meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd:

“Mae ein staff yn hapus iawn gyda’r gwelliannau sydd wedi digwydd hyd yma yn Neuadd Dwyfor, ac yn falch iawn bod yr adeilad rhestredig hynafol wedi gweld buddsoddiad i wella’r cyfleusterau sydd yno.

“Tra’n bod yn edrych ymlaen yn arw i ail-agor Neuadd Dwyfor, mi fydd yna waith yn parhau yn 2022 – ond ni fydd hynny yn amharu ar fwynhad y cyhoedd o’r adeilad.

“Bydd drysau mynedfa newydd yn cael eu gosod, a bydd gwaith atal damprwydd yn cael ei gwblhau er mwyn gofalu am yr adeilad am y blynyddoedd i ddod. Bydd gwaith pellach yn cael ei gwblhau i’r waliau allanol er mwyn sicrhau fod yr adeilad coch hyfryd yma yng nghanol tref Pwllheli yn sefyll ac yn ffynnu am y can-mlynedd nesaf.”

%d bloggers like this: