04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith yn ailddechrau ar dai cyngor cyntaf Sir Benfro mewn cenhedlaeth

MAE gwaith wedi ailddechrau ar adeiladu’r tai cyngor newydd cyntaf yn Sir Benfro ers dros 25 mlynedd.

Roedd gwaith ar ddatblygiad Parc Cranham yn Johnston wedi’i ohirio ers i’r contractwr gwreiddiol fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Ers hynny, mae Cyngor Sir Penfro wedi penodi WB Griffiths i ymgymryd â’r gwaith o gwblhau’r 33 o gartrefi ar safle’r hen ysgol gynradd.

Mae staff WB Griffiths wedi bod ar y safle ers rhyw dair wythnos, yn paratoi, yn tacluso’r safle ac yn ailddechrau’r gwaith adeiladu.

Dywedodd Neil Griffiths, Cyfarwyddwr WB Griffiths:

“Rydym yn falch iawn o barhau â’n perthynas yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro, gan gefnogi contractwyr lleol a chadwyni cyflenwi lleol i ddarparu’r datblygiad tai cyngor cyntaf mewn cenhedlaeth.”

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai:

“Rwy’n falch iawn o weld y gwaith yn ailddechrau ar y safle.

“Mae hwn yn brosiect tai pwysig i’r Cyngor ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cartrefi’n cael eu cwblhau tua diwedd y flwyddyn.”

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn ymgysylltu â’r gymuned i gasglu barn trigolion er mwyn datblygu Polisi Gosodiadau Lleol a bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddyrannu’r gosodiadau cyntaf ym Mharc Cranham.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn eiddo Parc Cranham neu unrhyw un o’r adeiladau newydd yn rhaglen ddatblygu’r Cyngor lenwi ffurflen gais tai i ymuno â’r gofrestr tai neu ffonio 01437 764551 i gael ffurflen gais.

Os yw ymgeiswyr eisoes ar y gofrestr tai, nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth arall ar hyn o bryd.

Pan fydd yr tai bron â chael eu cwblhau, byddant yn ymddangos ar yr hysbyseb Cartrefi Dewisedig wythnosol a chânt eu dyrannu yn unol â’r Polisi Gosodiadau Lleol.

Am unrhyw ymholiadau pellach fed pol gysylltu â’r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Tai drwy anfon neges e-bost at housingCLO@pembrokeshire.gov.uk

%d bloggers like this: