03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith yn dechrau ar adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan

CYNHALIWYD seremoni torri’r dywarchen yn rhithiol i nodi dechrau’r gwaith o adeiladu’r Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd. Yn bresennol roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS.

Er mwyn cyfyngu ar nifer y gwesteion ar y safle ac i gefnogi’r ymgyrch i gadw Cymru’n ddiogel ac aros gartref i ddiogelu bywydau rhag COVID-19, ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Phennaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan, Cath Bradshaw â’r digwyddiad drwy ddulliau rhithwir.

Ymunodd gwesteion eraill, gan gynnwys disgyblion o’r ysgol, cynrychiolwyr o ysgolion cynradd lleol, gwleidyddion lleol a swyddogion o Gyngor Caerdydd a Kier, y contractwr a ddewiswyd i adeiladu’r ysgol newydd, â’r digwyddiad rhithiol hefyd, gan roi cyfle iddynt gymryd rhan wrth ddathlu cychwyn y prosiect buddsoddi hwn.

Bydd yr adeilad ar dri llawr gyda lle i 1850 o ddisgyblion, pwll nofio cymunedol newydd a hefyd creu ardaloedd chwaraeon amlddefnydd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

“Bydd adeiladu adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan yn parhau â llwyddiant y gwaith o ailddatblygu ysgolion uwchradd a wnaed eisoes ar draws y ddinas ac rwy’n falch bod y prosiect, er gwaethaf heriau’r flwyddyn ddiwethaf, wedi gallu symud ymlaen yn ddi-oed.

“Buddsoddi mewn ysgolion ac addysg yw ein prif flaenoriaeth o hyd i Gaerdydd, a’n rhaglen Ysgolion ac Addysg ar gyfer y 21ain Ganrif Band B, gwerth £284m, yw’r buddsoddiad unigol mwyaf yn yr ystad ysgolion a welodd Caerdydd erioed. Mae’n arwydd clir o’n hymrwymiad parhaus i’n pobl ifanc – gan roi addysg dda iddynt mewn ysgolion o’r radd flaenaf. Plant yw dyfodol y ddinas hon ac mae’n hanfodol bod cyfleusterau modern ac amgylcheddau dysgu o safon ar gael iddynt a fydd yn eu helpu i wireddu eu potensial.

“Yn hollbwysig,bydd yr ysgol gymunedol hon hefyd yn golygu y bydd gan drigolion lleol yn Nhreganna, Glan-yr-afon a Grangetown fynediad i amwynderau rhagorol ar garreg eu drws, gan roi hwb sylweddol i’r ardal.”

Meddai  Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Mae dechrau’r gwaith adeiladu yn garreg filltir allweddol i ddisgyblion, staff a rhieni Ysgol Uwchradd Fitzalan ond hefyd i’r gymuned gyfan a fydd yn elwa o’r buddsoddiad hwn o £64m yn ardal Treganna.

“Mae cael Kaya a Jayden ar y safle i helpu i dorri’r dywarchen ar ran pawb sy’n rhan o’r prosiect, yn ein hatgoffa bod yr ysgol newydd hon yn dynodi dyfodol cyffrous i Ysgol Uwchradd Fitzalan a phawb sy’n mynd iddi.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS:

“Heddiw rydym yn dathlu’r camau cyntaf tuag at gyflwyno Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan.

“Rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn gyda buddsoddiad o £64m drwy ein rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.

“Bydd hyn yn trawsnewid yr amgylchedd dysgu i fyfyrwyr yn Fitzalan, gan roi ysgol iddynt ymfalchïo ynddi.

“Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn a dylai’r awdurdod lleol, y gymuned a’r staff gweithgar fod yn falch o drawsnewid gweledigaeth yn realiti i gefnogi ac ysbrydoli ein plant i ddysgu a chredu ynddynt eu hunain.”

Medd Jo Kemp, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Fitzalan:

“Yn Fitzalan ein gweledigaeth oedd darparu adeilad a fyddai’n gwobrwyo’r staff, yn ysbrydoli’r disgyblion, o fudd i’r gymuned ac yn ein cefnogi ni i gyd i fod y gorau y gallwn fod.

“Drwy gydol y camau cynllunio rydym wedi datblygu perthynas gadarnhaol iawn gyda thimau prosiect y Cyngor, y penseiri; Austin Smith Lord a Kier Construction, ac mae pob parti yn rhannu ein hangerdd a’n penderfyniad i ddatblygu’r cynllun gorau posibl.

“Mae staff a disgyblion wedi cymryd rhan ym mhob cam ac mae eu syniadau a’u gweledigaeth wedi’u hymgorffori yn y dyluniad. Mae’r hyn yr ydym yn ei adeiladu yn fwy na dim ond ysgol i ni a’n cymuned, dyma yw ein dyfodol. Mae’r daith hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydym yn gyffrous ar gyfer y cam nesaf.”

Dywedodd Nigel Phillips, Rheolwr Gweithrediadau Kier ar gyfer Kier Construction yng Nghymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn dathlu’r seremoni rithiol fydd yn cychwyn y gwaith o adeiladu adeilad Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd heddiw gyda Phrif Weinidog Cymru, aelodau oGyngor Caerdydd yn ogystal â staff addysgu a disgyblion yr ysgol. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, edrychwn ymlaen at adeiladu’r ysgol bwrpasol newydd hon a fydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ac amgylchedd dysgu ysbrydoledig.

“Rydym wedi ymrwymo i adael etifeddiaeth barhaol yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio ac rydym yn falch o gefnogi Addewid Caerdydd i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i lwybrau gyrfa yn y diwydiant adeiladu, drwy ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i’r gymuned leol. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â disgyblion ac athrawon yr ysgol, gan arddangos cerrig milltir y prosiect yn ogystal â rhannu taith dau gyn-fyfyriwr sydd wedi ymuno â’n rhaglen Gradd Kier yn ddiweddar.”

 

%d bloggers like this: