MAE’R gwaith o baratoi ar gyfer datblygu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn y Trallwng wedi dechrau.
Bydd y Cynllun, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweld cyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cael ei hadeiladau yn y Trallwng a fydd yn cynnwys gorsaf fysiau, maes parcio, safle tacsis a lloches feiciau dan do mawr. Wedi’i lleoli’n ddelfrydol ym maes parcio presennol Stryd yr Eglwys, bydd y datblygiad newydd hwn yn agos at ganol y dref, gyda mynediad hawdd i’r siopau, y ganolfan groeso, y toiledau a’r orsaf drenau.
Tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen, nifer cyfyngedig o leoedd parcio bydd ar gael ym maes parcio Stryd yr Eglwys, ond mae digon o le parcio ar gael ym maes parcio Stryd Aberriw sydd gerllaw.
“Mae lleoliad a chynllun y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd gyffrous hon wedi’i datblygu drwy ymgynghori’n agos â phrif randdeiliaid y dref.” Esboniodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, yr Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd.
“Mae buddsoddi a gwella y seilwaith trafnidiaeth ledled Powys, yn bwysig iawn i’n trigolion a’n busnesau ac i wella profiadau ein twristiaid niferus. Gyda’r datblygiad newydd mor agos at ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth eraill, bydd yn ddelfrydol i annog mwy o ymwelwyr i dref hardd y Trallwng.”
Mae cwmni lleol o Bowys, SWG Construction, wedi cael ei benodi i gyflawni’r prosiect, gyda gwaith i glirio’r safle eisoes wedi dechrau. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn y misoedd nesaf, gyda’r nod o gael y gyfnewidfa newydd yn gweithio’n llawn erbyn dechrau mis Mai.
Dywedodd Jacqui Gough, SWG Group:
“Mae’n hyfryd gallu gweithio gyda Chyngor Sir Powys i adeiladu’r gyfnewidfa drafnidiaeth newydd a fydd yn siwr o wneud gwahaniaeth mawr i bobl Y Trallwng a thu hwnt.
“Mae ein staff a’n contractwyr gan gynnwys M A Roberts Groundworks and Construction yn falch ein bod wedi dechrau ar y prosiect a fydd yn gwella’r amgylchedd a bioamrywiaeth yn ystod y gwaith adeiladu ac i’r dyfodol.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m