04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith yn dechrau ar lwybrau teithio llesol newydd Casnewydd

MAE Cyngor Dinas Casnewydd wedi dechrau gwaith ar ddau lwybr teithio llesol newydd yn y ddinas.

Bydd y llwybrau ym Mharc Tredegar ac Ynys y Mwnci yn ychwanegu at rwydwaith teithio llesol presennol y ddinas, gan roi mwy o gyfleoedd i breswylwyr deithio naill ai ar droed neu ar feic.

Bydd llwybr Parc Tredegar yn rhedeg drwy’r parc ac ymlaen drwy’r isffordd i gerddwyr i greu cyswllt â’r hen gwrs golff ger yr A48.

Bydd y llwybr hefyd yn defnyddio’r un goleuadau lefel isel ag sydd wedi’u gosod ar y llwybr teithio llesol a gwblhawyd yn ddiweddar ym Mharc Coed Melyn, a gynlluniwyd wrth ystyried yr amgylchedd ac i leihau effeithiau’r goleuadau ar fywyd gwyllt.

Mae’r gwaith ar ramp Ynys y Mwnci hefyd wedi dechrau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.

Bydd y llwybr trwy Ynys y Mwnci yn cynnwys pont newydd heb lonydd ar wahân i gysylltu troedffordd ogleddol y briff ffordd, y man agored a’r ystâd dai fel nad oes rhaid i bobl ddefnyddio’r nifer o groesfannau ar gyffordd y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol.

Bydd hefyd yn rhoi llwybr diogel a chynhwysol o lwybr cylchol y ddinas ar lan yr afon i’r ardaloedd masnachol a phreswyl yn Llyswyry yn ogystal a’r cysylltiadau newydd ar Corporation Road a gafodd eu gosod yn gynharach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor: “Rwy’n falch ein bod yn gallu cyhoeddi dechrau’r gwaith ar lwybrau teithio llesol diweddaraf Casnewydd.

“Mae Parc Tredegar yn un o’n safleoedd mwyaf poblogaidd, ac rydym yn obeithiol y bydd y llwybr newydd yma yn cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’r parc yn rheolaidd.

“Mae hefyd yn braf gweld y gwaith yn dechrau ar Ynys y Mwnci, a fydd yn cynnig cyswllt llawer gwell o dde’r ddinas i ganol y ddinas, gan helpu trigolion i osgoi’r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol brysur iawn sydd wedi bod yn destun nifer o ddamweiniau ffyrdd yn y man penodol hwn.

“Rydyn ni eisiau i fwy o bobl yng Nghasnewydd gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byrion, a byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion a rhanddeiliaid ar gynyddu ein rhwydwaith teithio llesol i annog hyn.”

Bydd y gwaith ym Mharc Tredegar yn achosi mân aflonyddwch: bydd llwybrau troed ar gau gyda llwybrau’n cael eu dargyfeirio ac arwyddion ynglŷn â hynny, a bydd amwynderau hamdden yn y parc ar gau drwy gydol y gwaith.

Mae’r cyngor hefyd wrthi’n ymgynghori â thrigolion ar y map rhwydwaith teithio llesol yng Nghasnewydd.  Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar lwybrau teithio llesol presennol, gwelliannau posibl i’r llwybrau hyn, a lle yr hoffai trigolion a rhanddeiliaid i lwybrau newydd gael eu sefydlu.

Gall preswylwyr ymweld â’n tudalen ymgynghori nawr i ddweud eu dweud.

%d bloggers like this: