MAE Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl yng Nghymru y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ol 16 Awst.
Ers dechrau’r pandemig cynghorwyd tua 130,000 o bobl yng Nghymru i gymryd camau gwarchod gan eu bod mewn perygl mawr o ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn contractio coronafeirws.
Mae’r newid yn y cyngor yn golygu, o 16 Awst, y gall pobl yn y grŵp cysgodi fynd i’r gwaith neu i’r ysgol a mynd i siopa ond dylen nhw barhau i gymryd camau i ddiogelu eu hunain rhag coronafeirws drwy gadw pellter o 2m oddi wrth eraill a golchi eu dwylo’n aml.
Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi dweud yn y gorffennol y gall y rheini sy’n cysgodi wneud ymarfer corff diderfyn yn yr awyr agored a chwrdd ag aelodau o un aelwyd arall yn yr awyr agored. Gall pobl sy’n cysgodi hefyd ffurfio rhan o aelwyd estynedig.
Dywedodd Dr Frank Atherton: “Mae’r broses o gysgodi wedi bod yn anodd i lawer o bobl – mae degau o filoedd o bobl wedi aberthu’n bersonol yn sylweddol iawn i ddilyn y canllawiau ac i ddiogelu eu hiechyd yn ystod anterth y pandemig. Yr wyf am ddiolch iddynt am hynny oherwydd nid yw wedi bod yn hawdd. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cefnogi’r rhai sydd wedi bod yn cysgodi.
“Mae cysgodi yn gais enfawr i rywun ymgymryd ag ef, felly mae’n bwysig nad ydym yn gofyn i bobl i wneud hynny am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol. Gan fod lefel y firws yn ein cymunedau yn isel erbyn hyn, y gall gwarchod ddod i ben am y tro o 16 Awst. Mae hyn yn golygu y gall y rhai sydd wedi bod yn cysgodi ailafael yn raddol yn eu bywyd bob dydd, ond gan gymryd gofal ychwanegol o gwmpas ymbellhau corfforol a golchi dwylo. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac os gwelwn lefelau trosglwyddo’n cynyddu, efallai y bydd angen i ni ystyried cynghori’r grŵp cysgodi i gymryd rhagofalon a mesurau ychwanegol i amddiffyn eu hunain yn y dyfodol.”
Dros yr haf bydd adolygiad yn cael ei gynnal o’r holl blant ar y rhestr warchod. Er bod gwarchod yn dod i ben, bydd y rhestr yn cael ei chynnal. Byddwn yn defnyddio’r canllawiau diweddaraf gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i benderfynu a oes angen i bob plentyn aros ar y rhestr.
Dywedodd Dr David Tuthill, Swyddog Cymru ar ran y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant: “Rydym bellach yn gwybod mwy am coronafeirws nag a wnaethom ychydig fisoedd yn ôl ac rydym wedi gallu diweddaru ein harweiniad yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddatblygwyd dros y misoedd hynny. Mae salwch difrifol o’r firws mewn plant yn brin iawn ac mae cysgodi yn dod â’i broblemau ei hun i blant. Mae cloi i lawr wedi bod yn anodd i bob plentyn sydd wedi colli allan ar yr ysgol, chwarae a gweld ffrindiau – ond yn enwedig i’r rhai sydd wedi bod yn cysgodi. Os byddwn yn wynebu rhagor o achosion o glefydau, gallwn fod yn hyderus na fydd angen i’r mwyafrif helaeth o blant, gan gynnwys y rhai sydd dan ofal meddyg teulu, i gysgodi. Rydym yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn newyddion da i lawer o deuluoedd. ”
Daw cyflenwadau wythnosol bocsys bwyd sy’n cael eu cydgysylltu gan yr Awdurdodau Lleol i ben ar ôl 16 Awst ond bydd slotiau blaenoriaeth yn achos siopa ar-lein ar gyfer archfarchnadoedd yn parhau. Hyd at 14 Gorffennaf, mae dros 152,000 o flychau bwyd wedi’u danfon at bobl sy’n gwarchod ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth dosbarthu presgripsiynau hefyd yn parhau tan ddiwedd mis Medi.
More Stories
Conservatives’ Lack of Action on Obscene Energy Profits “Indefensible” says Welsh Lib Dems
New Audit Office Report on Poverty in Wales supports Plaid Cymru’s calls
Successful Operation targeting anti-social driving across Newport and Monmouthshire