03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth ailgylchu newydd i fusnesau a fflatiau mwy o faint

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyflwyno gwasanaeth ailgylchu amgen ar gyfer busnesau ac adeiladau ble ceir nifer uwch o fflatiau.

Mae’r gwasanaeth yn rhan o strategaeth y cyngor i gynyddu ailgylchu a bydd yn cyflwyno biniau olwynion ar gyfer casglu deunydd i’w ailgylchu er mwyn cynnig gwell gwasanaeth i fusnesau ac eiddo aml-breswylydd mwy o faint.

Hyd yn hyn, bu’n rhaid i fusnesau wneud y tro â’r cynwysyddion llai o faint a ddefnyddir ar gyfer casgliadau domestig, ac weithiau byddai angen iddyn nhw ddefnyddio nifer fawr o finiau ailgylchu bwyd domestig, er enghraifft, er mwyn cadw gwastraff bwyd ar wahân. Bydd y newid yn y gwasanaeth yn gyfle hefyd i unioni ailgylchu busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot â’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf parthed casglu gwydr ar wahân.

Canolbwyntir i ddechrau ar gynnig y gwasanaeth amgen i ryw 600 o gwsmeriaid busnes mwy o faint presennol a phreswylwyr 30 bloc mwy o fflatiau, gyda’r gwaith cyflwyno’n dechrau ar ddiwedd mis Ebrill, gan gael ei gyflawni erbyn diwedd mis Hydref 2021.

Bythefnos ar ôl i gwsmeriaid gael ymweliad i esbonio’r gwasanaeth newydd, gofynnir i fusnesau gytuno ar gytundeb newydd ar gyfer ailgylchu mewn biniau olwynion. Mae gofyn eisoes i fusnesau Castell-nedd Port Talbot gofrestru i gael casglu gwastraff ailgylchu gyda’r cyngor os ydyn nhw’n dymuno cael casgliad sbwriel masnachol.

Mae pob rhyddid gan fasnachwyr nad ydyn nhw’n dymuno cymryd rhan yn nhrefniadau ailgylchu’r cyngor fel rhan o reoli’u gwastraff i fynd â’u busnes at ddarparwyr eraill yn y sector breifat.

Ar ôl llofnodi’r cytundeb casglu gwastraff newydd, bydd y biniau newydd i gasglu gwastraff masnachol i’w ailgylchu’n cael eu cyflenwi o fewn pedair wythnos.

Gall busnesau ddechrau defnyddio’r gwasanaeth newydd cyn gynted ag y bydd eu biniau’n cyrraedd. Ni fydd ganddynt ddewis i barhau gyda’r casgliadau ‘dull domestig’ presennol.

Yn ôl Cyfarwyddwr Amgylchedd ac Adfywio Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Nicola Pearce:

“Mae’r gwasanaeth newydd, amgen, yn adlewyrchu gofynion cenedlaethol ar i fusnesau ailgylchu mwy. Bydd y newidiadau hefyd yn galluogi’r cyngor yn y rhan fwyaf o achosion i gynnig casgliadau deunydd i’w ailgylchu a deunydd na ellir mo’i ailgylchu ar yr un diwrnod i fasnachwyr.

“O ran adeiladau fflatiau mawr, dan y trefniadau presennol, gall rhai o’r llociau biniau ddod yn rhy lawn gan ormod o fagiau ailgylchu gwyn ac offer ailgylchu arall. Bydd y gwasanaeth biniau olwyn newydd yn helpu i dacluso’r ardaloedd hyn a’i gwneud yn haws i breswylwyr fflatiau ailgylchu mwy.”

%d bloggers like this: