04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ail rith gyfarfod y Bwrdd

BYDD Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynnal ei ail rith gyfarfod y Bwrdd yr wythnos nesaf, a gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan yn ddigidol am y tro cyntaf.

Gwnaeth cannoedd o bobl wylio cyfarfod ar-lein cyntaf y Bwrdd ym mis Mai, gafodd ei gynnal trwy gyfrwng Zoom a’i ddarlledu’n fyw ar Facebook.

Bydd y Bwrdd yn ymgynnull trwy gyfrwng y platfform fideo gynadledda eto ddydd Iau, 25 Mehefin, a gwahoddir y cyhoedd a rhanddeiliaid i fod yn rhan o’r rhith gynulleidfa a gofyn cwestiynau y bydd aelodau’r Bwrdd yn eu hateb yn ystod y cyfarfod.

Dywedodd y Cadeirydd, Martin Woodford: “Roedd ein rhith gyfarfod cyntaf y Bwrdd yn arbrawf “rhoi’n troed yn y dŵr” gan nad oeddem ni’n gwybod yn iawn sut fyddai’r dechnoleg yn gweithio na beth fyddai lefel y diddordeb ymhlith y cyhoedd.

“Gwnaeth 5,500 edrych ar y cyfarfod ar Facebook yn unig, sy’n debygol o fod yn fwy na chyfanswm nifer y bobl sydd wedi bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd trwy gydol ein hamser fel Ymddiriedolaeth; roedd yn foment ddiffiniol i ni.

“Mae pandemig Covid-19 yn golygu fod rhaid i ni weithio’n wahanol, gan wneud y mwyaf o dechnoleg i wneud cyfarfodydd y Bwrdd mor hygyrch ag y bo modd, ac mae’n gynyddol debygol y gwnawn ni ddefnyddio’r dull hwn yn barhaus, o gofio’r diddordeb a ddangoswyd.

“Mae ymgysylltu mor bwysig i ni yma yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, a dyna pam  y byddwn ni’n gwahodd y cyhoedd i gyflwyno cwestiynau ymlaen llawn ar gyfer ein cyfarfod nesaf, y bydd y Bwrdd yn eu hateb yn y cyfarfod.”

Ychwanegodd Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu’r Ymddiriedolaeth: “Mae hwn yn gyfle unigryw i ddysgu am ein cyfeiriad teithio a gofyn cwestiwn y byddwn ni’n ei ateb yn fyw fel rhan o’r sesiwn.

“Mae croeso i chi holi’r Bwrdd am unrhyw beth, yn cynnwys ein hymateb i Covid-19, sut rydym ni’n gwario arian trethdalwyr, cynlluniau recriwtio, yr agenda cydraddoldeb a llawer mwy.

“Rydym ni’n clywed gan glaf ym mhob cyfarfod y Bwrdd hefyd. Y tro hwn rydym ni’n ffodus y bydd dyn yn ymuno gyda ni a fydd yn rhannu ei brofiad o ofalu am ei ŵr gyda dementia.”

Cynhelir cyfarfod y Bwrdd ddydd Iau, 25 Mehefin, yn dechrau am 9:30am; cliciwch yma i ymuno yn y cyfarfod trwy gyfrwng Zoom neu ei wylio’n fyw ar dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth.

Bydd yr agenda i’w gweld ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau nesaf.

Cewch gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw trwy anfon neges e-bost i  AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn diwedd y diwrnod busnes ddydd Mawrth, 23 Mehefin.

%d bloggers like this: